Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Swyddog Gorfodi Prentis X 2 (dyddiad cau: 02/09/25)

£32,061- £35,412 pro rata y flwyddyn ar gyfer Gradd 7. Prentis Blwyddyn 1 - 60% (£19,237) Prentis Blwyddyn 2 - 75% (£24,448). (Contract Cyfnod Penodol 2 flynedd am gyfnod yr hyfforddiant).

Teitl y swydd: Swyddog Gorfodi Prentis X 2
Rhif y swydd: PL.73882
Cyflog: £32,061- £35,412 pro rata y flwyddyn ar gyfer Gradd 7. Prentis Blwyddyn 1 - 60% (£19,237) Prentis Blwyddyn 2 - 75% (£24,448)
Disgrifiad swydd: Prentis Swyddog Gorfodi (PL.73882) Disgrifiad Swydd (PDF, 299 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73882

Dyddiad cau: 11.45pm, 2 Medi 2025

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn chwilio am ddau Brentisis Swyddog Gorfodi i ymuno â'n tîm Safonau Masnach prysur. Bydd y contractau yn cael eu pennu am 2 flynedd i ganiatáu i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau'r Cynllun Prentisiaethau Rheoleiddio.

Rydym yn wasanaeth blaengar, dan arweiniad cudd-wybodaeth, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu ffyrdd arloesol o gwrdd â'r heriau sy'n wynebu tirwedd defnyddwyr a busnes heddiw. Rydym yn chwarae rhan weithredol mewn gwaith rhanbarthol a phartneriaeth, gyda'r nod o ddarparu amgylchedd diogel, teg a ffyniannus i fusnesau a defnyddwyr.

Fel Swyddog Gorfodi Prentis, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â swyddogion profiadol i ymchwilio i gwynion, cynnal arolygiadau, a chefnogi camau gorfodi yn erbyn masnachwyr twyllodrus. Byddwch yn ennill profiad ymarferol mewn meysydd fel gorfodi tybaco anghyfreithlon a vape, diogelwch cynnyrch a masnachu teg, trwyddedu a gwerthiannau cyfyngedig oedran ac ymchwiliadau amddiffyn defnyddwyr.

Byddwch hefyd yn ymgymryd â hyfforddiant a datblygiad ffurfiol, gan weithio tuag at gymhwyster lefel 4 mewn Cydymffurfiaeth Reoleiddiol. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth lawn fel rhan o'r brentisiaeth.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n frwdfrydig gydag agwedd gadarnhaol, sydd â moeseg waith gref, yn gyfathrebwyr da, yn gweithredu gyda gonestrwydd, uniondeb a phroffesiynoldeb, yn gweithio'n dda fel rhan o dîm ac sydd â diddordeb gwirioneddol mewn dechrau gyrfa ym maes gorfodi a diogelu'r cyhoedd.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Awst 2025