Ar agor yn swyddogol! Ardal chwarae arfordirol y prom ar ei newydd wedd
Mae plant yn mwynhau ardal chwarae newydd sy'n edrych dros ehangder ysblennydd Bae Abertawe.

Agorwyd yr ardal yn swyddogol heddiw fel rhan o Raglen Rheoli Risg Arfordirol y Mwmbwls.
Roedd y rhai a wahoddwyd i'r agoriad drwy gyfryngau cymdeithasol yn cynnwys pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Mwmbwls.
Cyflwynwyd yr ardal chwarae a'r prosiect amddiffynfeydd môr ehangach gan Gyngor Abertawe a'r prif gontractwr Knights Brown, a darparwyd y rhan fwyaf o'r cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart,"Mae'n wych gweld yr offer o ansawdd uchel hwn yn cael ei ddefnyddio gan bobl ifanc o bob rhan o Abertawe a thu hwnt.
"Hoffwn ddiolch i bawb yn y Mwmbwls am eu dealltwriaeth wrth uwchraddio'r amddiffynfeydd môr a fydd yn amddiffyn y gymuned am ddegawdau lawer i ddod."
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Roedd yn dda croesawu pobl y Mwmbwls i ddigwyddiad agor swyddogol yr ardal.
"Mae'r ymateb i'r amddiffynfeydd môr wedi'u cryfhau a'r prom newydd wedi bod yn hynod gadarnhaol."
Roedd gwahoddiad agored i ddathlu agor yr ardal chwarae ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae'r ardal chwarae yn ymestyn o ardal Gerddi Southend tuag at ardal The George.
Mae'n cynnwys pren caled i ymdopi ag amgylchedd glan y môr, ac mae gan yr ardal lithren, waliau dringo, llwybr cydbwysedd a hamog.
Mae Gower Seafood Hut a fan coffi Bibby's Beans, gwerthwyr dros dro sydd wedi bod yn gweini'r cyhoedd yng Ngerddi Southend yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi symud i safleoedd newydd ger yr ardal chwarae. Mae The Village Creperie, sydd wedi bod yn masnachu o faes parcio Sgwâr Ystumllwynarth yn ddiweddar, yn bwriadu symud yno hefyd.
Tua phum metr uwchben yr ardal chwarae a gweddill y prom wedi'i wella, mae goleuadau sy'n hongian â thua 1,400 o fylbiau effeithlon o ran ynni a gafodd eu cynnau'n swyddogol wrth agor yr ardal chwarae.
Roedd y digwyddiad agor hefyd yn cynnwys plannu coeden olaf y cynllun yn ffurfiol; ni chafodd unrhyw goed iach eu torri yn ystod y gwaith adeiladu, a phlannwyd tua 40 o goed newydd fel rhan o ymdrechion tirlunio a glasu.
Mewn ardaloedd eraill yn Abertawe, mae'r cyngor yn parhau i uwchraddio dwsinau o ardaloedd chwarae cymunedol fel rhan o fuddsoddiad gwerth £8m mewn chwarae'n rhydd.
Llun:Mae'r ardal chwarae ar y prom newydd yn y Mwmbwls wedi'i hagor yn swyddogol.