Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 05/09/25)

£36,363 - £39,862 pro rata y flwyddyn ar gyfer Gradd 8 / £40,777 - £45,091 pro rata y flwyddyn (Gradd 9). Mae Gradd 8 ar gyfer newydd gymhwyso. Tîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn (4 diwrnod yr wythnos)

Teitl y swydd: Gweithiwr Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.63583-V2
Cyflog: £36,363 - £39,862 pro rata y flwyddyn ar gyfer Gradd 8 / £40,777- £45,091 pro rata y flwyddyn (Gradd 9)
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymdeithasol (SS.63583-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 257 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.63583-V2

Dyddiad cau: 11.45pm, 5 Medi 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae'r OPMHT yn Dîm Cymunedol Integredig sy'n cynnwys staff Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd. Fel Gweithiwr Cymdeithasol o fewn y tîm, byddwch yn gweithio'n agos gyda Gweithwyr Proffesiynol eraill i drafod canlyniadau gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a nodi atebion i'w Cyflawni. Yn unol â deddfwriaeth, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, Deddf Galluedd Meddwl 2005, Deddf Iechyd Meddwl 1983.

Mae'r swydd yn swydd ran-amser parhaol 4 diwrnod yr wythnos

Mae Tîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn wedi ymrwymo i: -

  • Sicrhau bod yr holl anghenion a risgiau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu hasesu a bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu rheoli'n dda ac yn ddiogel rhag niwed.
  • Darparu gwasanaethau sy'n hygyrch i bob defnyddiwr gwasanaeth o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd yn unol ag egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth. 
  • Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth o fewn model gofal sy'n cynorthwyo i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol ac yn eu galluogi i ddychwelyd i fyw'n ddiogel yn y gymuned.
  • Gweithio ar y cyd ag ystod o weithwyr proffesiynol, defnyddwyr a gofalwyr yn ogystal â gwasanaethau anstatudol.
  • Asesu anghenion gofalwyr a sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei ddarparu.
  • Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn weithredol wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i'w hanghenion.
  • Hyrwyddo anghenion pobl ag anghenion sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â gofal iechyd meddwl.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaetholg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Awst 2025