Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Rhenti (dyddiad cau: 09/09/25)

£31,067 - £34,314 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Gwasanaeth Tai i weithio fel swyddog rhenti mewn Tîm Rhenti prysur; Mae hon yn rôl sy'n wynebu cwsmeriaid sy'n cynnwys cefnogi a chynghori tenantiaid mewn perthynas â'u cyfrifon rhent..

Teitl y swydd:Swyddog Rhenti
Rhif y swydd: PL.0374
Cyflog: £31,067 - £34,314 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Rhenti (PL.0374) Disgrifiad Swydd (PDF, 309 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran:
Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0374

Dyddiad cau: 11.45pm, 9 Medi 2025

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm hunan-gymhellol, ymroddedig a dibynadwy i weithio mewn tîm prysur. Mae swydd y Swyddog Rhenti yn rôl heriol lle bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mabwysiadu dull ataliol, gan fod yn gyfrifol am gasglu incwm rhent, adfer ôl-ddyledion rhent a darparu cymorth a chyngor i denantiaid. Rydym yn gofyn am rywun a fydd yn dangos empathi i amgylchiadau unigol cwsmeriaid ac yn cydbwyso hyn gyda'r angen i helpu i gadw ôl-ddyledion rhent i'r lleiafswm ac adennill ôl-ddyledion rhent. Bydd deiliad y swydd yn adrodd yn uniongyrchol i'r Uwch swyddog rhenti a bydd yn cynorthwyo i sicrhau bod lefelau perfformiad yn cael eu parhau a bod tenantiaid yn derbyn lefelau rhagorol o ofal cwsmeriaid gan y gwasanaeth Tai. Mae'n hanfodol bod gennych drwydded yrru gyfredol a'ch cludiant eich hun.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Awst 2025