Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîm twyll yn helpu'r cyngor i arbed dros £1.1m

Mae tîm canfod twyll Cyngor Abertawe'n helpu i arwain y ffordd yng Nghymru drwy gau'n dynn ar y rheini sy'n ceisio camddefnyddio'r system drwy hawlio arian neu wasanaethau cyngor nad oes ganddynt hawl iddynt.

generic suitable for budget, invoicing and similar

Roedd galw uchel parhaus am y gwasanaeth y llynedd, gyda channoedd o honiadau twyll newydd yn cael eu gwneud i'r cyngor. Roedd yr honiadau'n amrywio o dwyllwyr yn is-osod eu cartrefi cyngor i'r rheini sy'n hawlio budd-daliadau neu ryddhad treth y cyngor yn dwyllodrus, neu'n camddefnyddio'r system barcio i ddeiliaid bathodyn glas.

At ei gilydd, mae tîm twyll y cyngor wedi helpu i arbed dros £1.1m drwy ddod â gordaliadau budd-daliadau tai a lles a threth y cyngor i'r amlwg, gan gynnwys mwy na £700,000 mewn twyll tai cymdeithasol.

Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, ei fod yn hollbwysig bod y miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario ar wasanaethau bob blwyddyn yn cyrraedd y rheini y mae ei angen arnynt. Ond, ar yr un pryd, rhybuddiodd y bydd y cyngor yn gweithredu'n llym ar dwyll, lle bynnag y ceir hyd iddo.

Meddai, "Ymysg awdurdodau lleol yng Nghymru mae ein tîm twyll wedi helpu i arwain y ffordd drwy ddod o hyd i achosion o dwyll a gweithredu yn eu herbyn.

Roedd dull ein tîm gwrth-dwyll wedi cael effaith ataliol glir ar y rheini sy'n mynnu twyllo."

Mae gwaith y cyngor i fynd i'r afael â thwyll wedi'i amlygu yn adroddiad blynyddol y tîm gwrth-dwyll, sy'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r wythnos hon.

Ymysg y ffigurau a nodir yn yr adroddiad mae cyfanswm o 405 o achosion o dwyll posib a adroddwyd i'r cyngor yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, 2024/25, sy'n fwy na'r 383 o achosion a adroddwyd yn y flwyddyn flaenorol.

Cafwyd cynnydd mewn achosion o dwyll budd-daliadau honedig a thwyll treth y cyngor, tai cymdeithasol a bathodyn glas.

Nifer yr honiadau o dwyll mewnol yn y cyngor yn 2024/25 oedd 13, mewn gweithlu o dros 11,000. Daethpwyd â deg o'r achosion i ben gydag un ohonynt yn arwain at ddiswyddo, ac mae tri ohonynt yn parhau o hyd.

Yn ôl yr adroddiad, un o'r rhesymau dros y cynnydd yn nifer cyffredinol yr honiadau o dwyll yr adroddwyd amdanynt oedd offeryn adrodd ar-lein a sefydlwyd gan y cyngor fel rhan o'i waith i fynd i'r afael â thwyll drwy ei wneud yn haws i bobl adrodd amdano.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae twyll yn digwydd mewn cymdeithas yn gyffredinol ac, fel sefydliadau eraill, mae cynghorau'n cael eu targedu gan unigolion a throseddwyr trefnedig.

"Mae'r adroddiad twyll blynyddol yn dangos nad yw'n hawdd twyllo Cyngor Abertawe ac y byddwn yn herio twyll ym mhle bynnag y byddwn yn dod o hyd iddo, gyda'r nod o ddod â'r rheini sy'n ymgymryd ag arferion o'r fath gerbron llys."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Medi 2025