Masnachwyr Twyllodrus
Rydym wedi derbyn adroddiadau am alwyr diwahoddiad yn targedu preswylwyr yn Abertawe gyda sgamiau atgyweirio toeon.
- I ddechrau maent yn gofyn am daliad o oddeutu £100 i ailosod teils rhydd.
- Ar ôl arolygu'r to maent yn honni bod angen llawer mwy o waith arno ac yn gofyn am filoedd o bunnoedd.
- Maent yn mynnu bod angen talu ag arian parod, gan honni bod angen iddynt brynu deunyddiau - ond nid ydynt yn dychwelyd.
Diogelwch eich hun:
- Peidiwch byth â chytuno i waith adeiladu neu waith ar y to gan alwr diwahoddiad, gan gynnwys unrhyw waith garddio.
- Peidiwch byth â rhoi arian parod i alwyr diwahoddiad.
- Os ydych yn teimlo dan bwysau, caewch y drws a ffoniwch aelod o'r teulu, ffrind y gellir ymddiried ynddo, cymydog neu'r heddlu os oes angen.
Addaswyd diwethaf ar 28 Awst 2025