Taliad tanwydd y gaeaf / lwfans ynni
Rydym wedi cael gwybod am bobl yn derbyn negeseuon testun sy'n honni eu bod gan yr Adran gwaith a Phensiynau mewn perthynas â thaliadau Tanwydd y Gaeaf/Lwfans Ynni.
Mae'n ymddangos bod rhai o'r negeseuon yn cael eu hanfon at sawl derbynnydd. Derbyniwyd negeseuon gan y rhifau canlynol:
+63 908 306 9627
+44 744 709 4289
Negeseuon twyllodrus yw'r rhain y bwriedir iddynt dwyllo pobl i rannu gwybodaeth bersonol neu ariannol. Mae'r sgamiau hyn yn aml yn ymwneud â honiadau ffug am daliadau tanwydd y gaeaf, grantiau cymorth ynni neu fudd-daliadau eraill, ac yn aml maent yn cynnwys dolen faleisus i wefan ffug. Anogir derbynwyr i fod yn wyliadwrus ac i beidio â chlicio ar ddolenni amheus.