Gerddi glaw newydd yn gwella mynediad preswylwyr
Mae cymuned yn Abertawe'n barod i elwa o gyfres o fesurau gwyrdd a chynaliadwy sydd â'r nod o ddarparu cysylltedd gwell i gerddwyr a beicwyr.

Mae'r gwelliannau'n rhan o ymdrechion Cyngor Abertawe i gyflwyno isadeiledd gwell ar gyfer cerdded a beicio ar draws y ddinas, yn dilyn cais llwyddiannus am grant drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Mae rhywfaint o'r cyllid (£160,000) yn cael ei wario mewn nifer o leoliadau yng nghymuned Sandfields, yn benodol strydoedd pengaead.
Darparwyd rhagor o gyllid i'r cynllun drwy gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, Rhaglen Gyfalaf Ansawdd Dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Wates Family Enterprise Trust.
Mae'r safle mwyaf sy'n cael ei uwchraddio y tu allan i Ysgol Gynradd San Helen, lle mae llu o nodweddion yn cael eu creu, gan gynnwys amrywiaeth o goed a llwyni gwahanol fel rhan o ardd law, a fydd yn helpu i liniaru problemau draenio merddwr yn ystod glaw trwm.
Mae palmant gwell yn cael ei osod, ynghyd â chyrbau isel, sy'n gwella mynediad y rhai hynny sy'n teithio i'r ysgol ac oddi yno, boed ar gerdded neu ar feiciau a sgwteri.
Mae'r gwelliannau'n dilyn ymgynghoriad â phreswylwyr a busnesau yn yr ardal a thrwy gymorth Urban Foundry, yr arbenigwyr adfywio cymunedol, a wnaeth helpu i ddatblygu'r cynlluniau blaengar.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Defnyddir y cyllid a sicrhawyd gennym ar gyfer cerdded a beicio, yn bennaf, i greu llwybrau newydd sy'n cysylltu cymunedau, gan alluogi pobl i deithio mewn ffordd fwy cynaliadwy.
"Mae rhywfaint o'r setliad eleni hefyd wedi cael ei gyfeirio tuag at gyflwyno mesurau cynaliadwy a blaengar sy'n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio, yn ogystal â chyflwyno isadeiledd gwyrdd mewn cymunedau lleol.
"Dyma ffordd wych o wella cymunedau lleol, sy'n annog balchder yn yr ardal lle maent yn byw, yn ogystal â datblygu cysylltiadau gwell ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy i'r bobl sy'n byw yno."
Gosodwyd gardd law arall ar ben Burrows Road, gerllaw Oystermouth Road.
Mae gerddi glaw'n dal dŵr ffo o ffyrdd a phalmentydd; mae coed, llwyni a blodau'n helpu i leihau risg llifogydd, ac yn helpu i atal llygredd rhag cyrraedd dyfrffyrdd a niweidio ecosystemau. Maent yn cynnig bwyd a chysgod i beillwyr drwy'r flwyddyn ac yn rhoi ychydig o liw drwy'r tymhorau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Mae gerddi glaw'n ffordd wych o fynd i'r afael â llifogydd mân ar strydoedd. Maent yn helpu i ddal dŵr wyneb dros ben ac yn hybu bioamrywiaeth mewn ardaloedd trefol pan gaiff llwyni a phlanhigion eu cynnwys yn y dyluniad."