Swyddog Cymorth Busnes (dyddiad cau: 18/09/25)
£26,403 - £27,254 y flwyddyn. Mae'r Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau yn ceisio recriwtio person trefnus ac ymroddedig i ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau gweinyddol.
Teitl y swydd: Swyddog Cymorth Busnes
Rhif y swydd: FN.73909
Cyflog: £26,403 - £27,254 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cymorth Busnes (FN.73909) Disgrifiad Swydd (PDF, 299 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Cyllid
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd FN.73909
Dyddiad cau: 11.45pm, 18 Medi 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm prysur o fewn y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau sy'n darparu gwasanaeth rhagorol i drigolion Abertawe.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n hyblyg, brwdfrydig, trefnus a llawn cymhelliant i gynorthwyo'r adran i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar sgiliau gweinyddol a TGCh rhagorol er mwyn delio ag ystod o ddyletswyddau ar draws yr ystod eang o wasanaethau a ddarperir gan yr adran.
Mae'r swydd yn llawn amser ac yn barhaol. Mae'n seiliedig ar swyddfa yn ystod cyfnod o hyfforddiant, gyda chyfleoedd i weithio hybrid unwaith y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n annibynnol.
Os ydych chi eisiau ymuno â'n tîm prysur a deinamig ac eisiau trafodaeth bellach ar y rôl, cysylltwch â Heather Young drwy e-bost yn Heather.Young@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol