Ysgol Gynradd Blaenymaes: Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg
(dyddiad cau 21/09/2025). Mae cyfle cyffrous wedi codi yn lleoliad Dechrau'n Deg 'Butterflies' Ysgol Gynradd Blaenymaes. 40 wythnos y flwyddyn, amser tymor ynghyd ag un wythnos ychwanegol yn ystod gwyliau'r haf 35 awr yr wythnos rhwng 8am a 4pm. Gradd 6. Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad amser tymor yn unig ar gyfer dechrau cyflogaeth y tu allan i'r dyddiad cychwyn sef 1af Medi.
Rydym yn edrych i benodi Uwch Weithiwr Gofal Plant â chymwysterau a phrofiadol. Bydd angen i'r ymgeisydd fod â nifer o flynyddoedd o brofiad o weithio gyda phlant dan dair oed mewn lleoliad gofal plant, gwybodaeth ragorol o ddatblygiad plant ac yn ddelfrydol gwybodaeth a phrofiad o weithio mewn lleoliad Dechrau'n Deg. Bydd angen i'r person fod yn weithgar, ymroddedig, addasadwy ac yn gallu ysgogi ac arwain tîm profiadol o staff gofal plant. Byddai profiad o weithio gyda phlant ag ADY, ysgrifennu adroddiadau, mynychu cyfarfodydd a rheoli llwythi achosion hefyd yn ddymunol. Mae'r lleoliad yn gweithredu addysgeg ddysgu dan arweiniad plant felly mae bod yn agored i'r ffordd hon o weithio yn hanfodol.
Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynnig cymorth i blant cyn-ysgol a'u teuluoedd sydd wedi'u targedu, sy'n byw mewn ardaloedd penodol o amddifadedd. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i blant at ofal plant o ansawdd uchel fel rhan o ddull tîm aml-asiantaeth, er mwyn gwella canlyniadau wrth baratoi ar gyfer yr ysgol a'r tymor hir.
Mae'n ofyniad o'r swydd bod yn rhaid i'r Uwch Weithiwr Gofal Plant weithio tuag at gyflawni'r CCLD Lefel 5 (Ymarfer Uwch), oni bai ei fod eisoes wedi'i gyflawni.
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)
Uwch Weithiwr Gofal Plant Dechrau’n Deg (PDF, 473 KB)
Dylid dychwelyd ffurflenni cais at y Rheolwr Gofal Plant Samantha Lorey neu eu hanfon at Butterflies Flying Start, Broughton Avenue, Blaenymaes, Abertawe SA5 5LW erbyn dydd Sul 21 Medi 2025.
Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn gwiriad DBS dilys a geirdaon addas.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Samantha Lorey ar 01792 583002 neu LoreyS9@Hwbcymru.net.