Swyddog Datblygu Parciau (dyddiad cau: 25/09/25)
£40,777 - £45,091 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am Swyddog Datblygu Parciau angerddol a phrofiadol i arwain y gwaith o gydlynu cyfleoedd ymgysylltu, cynllunio prosiectau a datblygu ar gyfer parciau cyhoeddus a mannau hamdden ledled y ddinas. Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol parciau a mannau agored i ddiwallu anghenion pob cymuned ledled Abertawe.
Teitl y swydd: Swyddog Datblygu Parciau
Rhif y swydd: PL.73907
Cyflog: £40,777 - £45,091 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Datblygu Parciau (PL.73907) Disgrifiad Swydd (PDF, 287 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73907
Dyddiad cau: 11.45pm, 25 Medi 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'n gyfnod cyffrous i fyw a gweithio yn Abertawe, gyda buddsoddiad ac adfywio mawr yn parhau i siapio'r ddinas. Gyda phoblogaeth o ychydig dros 250,000 a dros 4.7 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn, mae parciau a mannau gwyrdd Abertawe yn rhan bwysig o gynnig diwylliannol y ddinas sy'n helpu i wella lles trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Ydych chi'n angerddol am greu mannau awyr agored bywiog, cynhwysol a chynaliadwy? Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am Swyddog Datblygu Parciau deinamig i arwain y gwaith o drawsnewid a gwella ein parciau, mannau gwyrdd ac ardaloedd hamdden.
Mae hwn yn gyfle unigryw i lunio dyfodol mannau cyhoeddus ledled y ddinas - gan weithio'n agos gyda chymunedau, rhanddeiliaid a chontractwyr i gyflawni prosiectau sy'n gwella lles, bioamrywiaeth a hygyrchedd.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu, arweinyddiaeth a rheoli prosiectau cryf, ynghyd â'r gallu i weithio ar gyflymder ar brosiectau lluosog mewn amgylchedd cefnogol.
Ydych chi'n barod i helpu i lunio dyfodol gwyrddach ac iachach i Abertawe? Gwnewch gais heddiw a bod yn rhan o rywbeth gwirioneddol drawsnewidiol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol