Tîm Safonau Masnach Abertawe yn dal busnes gwerthu fêps anghyfreithlon yn Llundain
Mae dyn sy'n gyfrifol am gyflenwi miloedd o fêps anghyfreithlon i siopau yn Abertawe wedi cael dedfryd ohiriedig o 12 mis yn y carchar.
Ymddangosodd Amandeep Kukraja, cyfarwyddwr Norwood Trading Ltd a pherchennog Buddha Vapes, yn Llys y Goron Abertawe yn ddiweddar, a phlediodd yn euog i un drosedd o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.
Cafodd Mr Kukraja, 28, o Southall, Llundain hefyd ei orchymyn i ad-dalu mwy na £300,000 fel rhan o gais Enillion Troseddau.
Roedd yr achos llwyddiannus yn ddiweddglo i ymchwiliad hir gan dîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe i werthiant fêps anghyfreithlon yn y ddinas.
Yn dilyn atafael y fêps anghyfreithlon o siop yn Abertawe gan dîm Safonau Masnach, daeth swyddog o hyd i gyfleuster storio yn Southall, Llundain.
Ymunodd y tîm Safonau Masnach a'r Heddlu Metropolitanaidd fel rhan o 'Ymgyrch Thor', ac atafaelwyd bron 120,000 o fêps anghyfreithlon o'r uned yn Llundain.
Credir bod y cyflenwr yn darparu fêps anghyfreithlon i siopau ledled y DU, gan gynnwys Abertawe.
Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Yn ogystal â thorri'r gyfraith, mae perchnogion siop sy'n gwerthu nwyddau anghyfreithlon â chyfyngiad oed i blant dan oed yn dangos diffyg ymwybyddiaeth o'r canlyniadau a all ddeillio o werthu'r nwyddau hyn i bobl ifanc.
"Mae ein tîm Safonau Masnach wedi parhau â'r gwaith ardderchog y mae eisoes wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, i atal y nwyddau hyn a all beri niwed rhag cael eu gwerthu a chyrraedd dwylo plant ifanc.
"Roedd yr ymgyrch a gynhaliwyd ym mis Mawrth y llynedd yn llwyddiant mawr o ran atal fêps anghyfreithlon rhag cyrraedd Abertawe. Rydym wedi dangos ymrwymiad parhaus i atal gwerthu'r cynhyrchion, hyd yn oed os yw'r cyflenwr y tu allan i'n dinas.
"Rwy'n siŵr bod atafael swm mawr o gynnyrch anghyfreithlon wedi bod o fudd i Abertawe, yn ogystal â dinasoedd a threfi eraill yn y DU."