Toglo gwelededd dewislen symudol

Dau fusnes bwyd yn cael dirwy yn Abertawe am beryglu defnyddwyr

Galwyd ar fwytai a gwerthwyr cludfwyd yn Abertawe i ystyried alergeddau sy'n gysylltiedig â bwydydd penodol o ddifrif.

food allergens egg

Mae'r alwad ar fusnesau yn y ddinas yn dilyn camau a gymerwyd gan Dîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, sydd wedi arwain at ddirwyo dau fusnes bwyd gan Lys Ynadon Abertawe ar ddechrau mis Medi, am werthu bwyd anniogel.

Gan ffugio bod yn gwsmeriaid, rhoddodd swyddogion o Dîm Safonau Masnach y cyngor archebion bwyd gyda'r ddau fwyty, gan ddatgan bod ganddynt alergedd i gynhwysion bwyd penodol (wy) a gofyn i'r busnesau gynnig sicrwydd nad oedd eu harcheb yn cynnwys y cynhwysion hynny.

Ar y ddau achlysur, cynigiodd y busnesau sicrwydd i'r cwsmeriaid nad oedd eu pryd o fwyd yn cynnwys y cynhwysion, a allai fod yn niweidiol iddynt pe baent yn eu bwyta.

Fodd bynnag, pan gafodd yr archebion bwyd eu casglu, darganfuwyd bod y prydau bwyd yn cynnwys wy.

Plediodd Zalil Ahmed, perchennog Indian Spice, Carmarthen Road, yn euog i ddau dramgwydd o dan Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004. Cafodd Mr Ahmed ei ddirwyo £585 a'i orchymyn i dalu gordal gwerth £234 a chostau gwerth £1,000.

Plediodd Shahin Ahmed o Shahin Tandoori, Cae Bricks Road, Cwmbwrla, yn euog hefyd i un tramgwydd o dan Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004, a bu'n destun dirwy gwerth £833 a gorchymyn i dalu gordal gwerth £333 a chostau gwerth £1,000.

Mae Cyngor Abertawe'n darparu gwybodaeth i fwytai a siopau cludfwyd sy'n rhestru 14 o alergenau y mae angen eu hystyried wrth weini bwyd. Hefyd, mae'n ofynnol i staff gael eu hyfforddi a bod yn hollol ymwybodol o'r alergenau hyn er mwyn diogelu cwsmeriaid.

Mae'r rhestr yn cynnwys cynhwysion fel wy, cnau, llaeth, pysgod a hadau sesame, a allai fod yn angheuol i rywun a chanddo alergedd iddynt sy'n eu llyncu ar ddamwain.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Nid yw rhai busnesau bwyd yn y ddinas yn gwneud yr hyn a ddisgwylir ganddynt mewn perthynas ag alergenau a chadw defnyddwyr yn ddiogel.

"Gall alergenau bwyd fod yn ddifrifol iawn i ganran fach o bobl ac os ydynt yn rhoi gwybod i fusnesau bwyd fod ganddynt alergedd i gynhwysion penodol, mae angen iddynt fod yn hyderus y bydd y busnes sy'n darparu bwyd ar eu cyfer yn eu cadw'n ddiogel.

"Mae'r tîm Safonau Masnach yn parhau i weithio gyda busnesau, gan ddarparu cyngor a hyfforddiant mewn perthynas ag alergeddau. Mae'r cam gweithredu diweddaraf hwn yn rhan o ymarfer samplu parhaus.

"Rydym yn gobeithio y bydd y camau diweddaraf a gymerwyd yn erbyn busnesau bwyd lleol sy'n rhoi pobl mewn perygl, yn anfon neges gref i fwytai a siopau bwyd cyflym eraill fod angen iddynt fod yn fwy cyfrifol neu y byddant mewn perygl o gamau gorfodi tebyg."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Medi 2025