Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw: Swydd Gofalwr Rhan-amser

(dyddiad cau: 13/10/2025 10am). Gradd Cyflog 3(4) (Pro Rata) 20 awr. (2 awr yn y boreuon 7.00-9.00yb a 2 awr bob prynhawn 4.15-6.15yh). Ar gyfer Ionawr 2026.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig i ymuno â thîm gweithgar o fewn yr ysgol.

Rydym yn chwilio am Ofalwr Ysgol dibynadwy, gweithgar a rhagweithiol i ymuno â'n tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod amgylchedd ein hysgol yn ddiogel, yn saff, yn lân ac yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr. Fel y gofalwr, byddwch yn gyfrifol am gynnal a chadw safle'r ysgol o ddydd i ddydd, gan gefnogi rhedeg y safle'n esmwyth, a chymryd balchder mewn creu amgylchedd croesawgar a hardd ei gyflwyniad.

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw - Disgrifiad swydd gofalwr (PDF, 214 KB)

Os oes gyda chi ddiddordeb yn y swydd yma gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r ffurflen gais sydd wedi atodi isod, yn ogystal â llythyr byr yn amlygu eich cryfderau, eich doniau a'ch profiad a'u danfon at 6702235_yggllwynderw@hwbcymru.net

Gweler y ddolen ar gyfer y ffurflen gais isod

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Er mwyn derbyn manylion pellach, cysylltwch â'r ysgol drwy ffonio 01792 407130 neu ebostiwch 6702235_yggllwynderw@hwbcymru.net

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 13/10/2025 10yb

Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar: 20/10/2025

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod a fydd yn dechrau ar: 05.01.26 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny)

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i gais Datgelu Gwell i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Medi 2025