Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol yr Esgob Gore: Cynorthwyydd Addysgu

(dyddiad cau: 19/09/25 am 9am). Lefel 2 - Gradd 4 (scp 5-6). (30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn, tymor yn unig) £25,583 - £25,989 pro rata y flwyddyn

Ysgol yr Esgob Gore,
Ffordd De-la-Beche,
Sgeti,
Abertawe
SA2 9AP
Ffôn: 01792 411400
Ffacs: 01792 411800
Pennaeth: Mrs Helen Burgum
Nifer ar y gofrestr: 1330

Mae'r Llywodraethwyr yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu rhan-amser (30 awr yr wythnos) cyn gynted â phosibl yn gweithio yn yr adran ADY yn Ysgol yr Esgob Gore. Bydd y swydd dros dro tan 31 Awst 2026 yn y lle cyntaf.

Mae Cynorthwywyr Addysgu yn darparu lefel uchel o gymorth ac arweiniad dysgu i ddisgyblion sydd â graddau amrywiol o ADY. Felly, mae profiad yn y math hwn o rôl yn ddymunol ond nid yn hanfodol. Bydd yn ofynnol i'r Cynorthwyydd Addysgu gefnogi disgyblion mewn dosbarthiadau prif ffrwd gan ddarparu cymorth i'r athrawon dosbarth.  Bydd angen i'r Cynorthwyydd Addysgu fod yn hyblyg ac yn barod i weithio i weddu i anghenion dysgu'r plentyn. Mae gan y swydd hon gyfrifoldeb Cymorth Cyntaf. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu.

Yr isafswm cymhwyster sy'n ofynnol ar gyfer y swydd hon yw safon lefel 2 neu safon gyfatebol mewn sgiliau llythrennedd, rhifedd a TG.  Bydd y rôl yn gofyn am ymgeisydd sy'n gallu cysylltu'n dda â phobl ifanc ac sydd â dealltwriaeth dda o ddatblygiad plant a'r broses ddysgu. 

Mae Ysgol Bishop Gore yn ysgol gyfun boblogaidd, lwyddiannus iawn 11-18.  Yn ein harolygiad diweddar gan ESTYN, barnwyd bod ein hysgol unwaith eto yn "Ardderchog".

Gwnewch gais gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a gellir eu lawrlwytho oddi wrth www.eteach.com  Nid ydym yn derbyn CV's ar gyfer ceisiadau.

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Y dyddiad cau yw 9a.m. Dydd Gwener 19 Medi 2025.Defnyddiwch Eteach i wneud cais neu dylid e-bostio ffurflenni cais at:- donajenkins@bishopgore.net

Mae Ysgol yr Esgob Gore wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn.  Bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn amodol ar dderbyn datgeliad gwell boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Medi 2025