Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Gwybodaeth Rheoli (dyddiad cau: 29/09/25)

£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus a thechnegol fedrus i arwain ar systemau ariannol ac adrodd o fewn Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol. Mae hon yn rôl allweddol sy'n cefnogi data perfformiad cywir, anfonebu a gwneud penderfyniadau strategol ar draws y gwasanaeth.

Teitl y swydd: Swyddog Gwybodaeth Rheoli
Rhif y swydd: PL.67882
Cyflog: £36,363 - £39,862 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Gwybodaeth Rheoli (PL.67882) Disgrifiad Swydd (PDF, 287 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.67882

Dyddiad cau: 11.45pm, Medi 2025

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn gwahodd ceisiadau gan unigolion llawn cymhelliant a manylder ar gyfer rôl Swyddog Gwybodaeth Rheoli o fewn y tîm Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol. Mae hon yn swydd allweddol sy'n gyfrifol am oruchwylio systemau ariannol, sicrhau adrodd cywir ac amserol, a chefnogi darparu gwybodaeth rheoli o ansawdd uchel ar draws y gwasanaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar brosesau costio ac anfonebu, yn goruchwylio tîm bach, ac yn gweithredu fel arbenigwr pwnc ar gyfer systemau ariannol allweddol gan gynnwys Oracle Projects a General Ledger. Byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi perfformiad masnachu misol, monitro cyllideb, a gweithdrefnau diwedd blwyddyn, tra hefyd yn cyfrannu at ddatblygu system a gwella parhaus.

Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd â sgiliau technegol a dadansoddol cryf, ymagwedd rhagweithiol at ddatrys problemau, ac ymrwymiad i ragoriaeth gwasanaeth. 

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Medi 2025