Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe: Cymorth TG Technegydd
(Dyddiad cau: 23/09/25 at 3pm). Mae'r ysgol yn awyddus i benodi Technegydd Cymorth TG i swydd llawn amser (37 awr yr wythnos am 39 wythnos, Gradd 5 ) yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.
Mae hwn yn gytundeb blwyddyn yn y lle cyntaf, ond mae potensial cryf i ymestyn hwn i gytundeb parhaol. Byddai ymgeisydd addas yn un sydd â phrofiad blaenorol a'r potensial i gynyddu cyfrifoldebau yn yr ysgol.
Mae'r ysgol wedi elwa o fuddsoddiad helaeth mewn adnoddau gyda datblygiadau cyffrous ar y gorwel sy'n cynnwys adeiladau newydd yn y blynyddoedd nesaf.
Mae'r Adran TG yn adran brysur sy'n cefnogi pob agwedd ar ddefnydd TGCh yr ysgol a thechnolegau cysylltiedig. Bydd cyfrifoldebau eraill yn cynnwys gosod a ffurfweddu offer a datrysiadau newydd ynghyd ag uwchraddio systemau presennol, cefnogi'r platfform dysgu cenedlaethol (HWB), a darparu hyfforddiant sylfaenol yn ôl gofynion staff addysgu a chymorth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau cefnogaeth tîm staff agos ac effeithiol. Bydd ef / hi yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr TGCh, a Phennaeth Cymhwysedd TGCh / Digidol yn ogystal â thîm effeithiol o staff cymorth a gweinyddol yn yr ysgol. Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio trwy gyfrwng Cymraeg yn hanfodol yn y swydd hon.
Os hoffech gael mwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth Cynorthwyol Mrs Nerys Vaughan.
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)
Proses ymgeisio
Gallwch wneud cais am y swydd hon trwy ffurflen gais a llythyr yn amlinellu'ch sgiliau a'ch profiad sy'n berthnasol i'r swydd hon. Gallwch gynnwys eich profiadau perthnasol yn ogystal â'ch gweledigaeth am y ffyrdd y gallech chi gyfrannu at fywyd yr ysgol fel cymuned ddysgu.
Dyddiad cau: 23/09/2025 3 pm
Dyddiad Cychwyn: Cyn gynted â phosib ar ôl apwyntio.
Swydd Ddisgrifiad Cynorthwyydd Dysgu Digidol
Rheolwr Llinell: NV - Cyfrifoldeb am gymhwysedd digidol ar draws y cwricwlwm
Prif ddyletswyddau:
- Cefnogi'r cydlynydd TGCh yn ei waith dyddiol i sicrhau bod systemau a cyfarpar cyfrifiadurol yr ysgol yn weithredol ar bob adeg.
- Cefnogi'r arweinydd cymhwysedd digidol gyda datblygiadau cwricwlaidd a thechnegol.
- Trefniadau dyddiol HWB.
- Bod yn gyfrifol am 'wefannau cymdeithasol' a diweddaru wefan yr ysgol
- Sicrhau bod y cyfrifiadur / sain yn iawn ar gyfer gwasanaethau
- Bod 'Ar-Alwad' i gefnogi athrawon
- Sicrhau bod gwybodaeth ar y Plasma yn ddyddiol
- Cynorthwyo'r Arweinwyr Digidol.
- Gallu golygu fideos, ffilmiau pontio, clipiau ayyb
- Gwirio a pharatoi'r gliniaduron
- Adnewyddu 'aps' ar yr i-pads
- Gweinyddu 'Dangos Fy Ngwaith Cartref'
Cyfrifoldeb ar gyfer ffilmio gwersi.
Graddfa Cyflog: Gradd 5
Cytundeb: Blwyddyn yn unig
Dyddiad dechrau: Cyn gynted a phosib
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol