Ysgol Gynradd Craigfelen: Uwch Weithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg - Rhan amser
(dyddiad cau: 26/09/25 am 12pm). Cyflog: £28,142 - £31,022 pro rata y flwyddyn. Gradd 6 (21 awr, 40 wythnos y flwyddyn). (Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad tymor yn unig os yw dechrau'r gyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd).
Pennaeth - Mrs Alison Williams
Ysgol Gynradd Craigfelen
Cilgant Woodside
Clydach
Abertawe
SA6 5DP
Ffôn: - Ysgol - 01792 843278 / Dechrau'n Deg - 01792 841164
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn lleoliad Dechrau'n Deg Craigfelen Caterpillars.
Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio cynnig cymorth i blant cyn-ysgol a'u teuluoedd sydd wedi'u targedu, sy'n byw mewn ardaloedd penodol o amddifadedd. Mae Dechrau'n Deg yn cynnig mynediad i blant at ofal plant o ansawdd uchel fel rhan o ddull tîm aml-asiantaeth, er mwyn gwella canlyniadau wrth baratoi ar gyfer yr ysgol a'r tymor hir.
Rydym yn edrych i benodi Uwch Weithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg rhagorol i gefnogi'r Rheolwr Dechrau'n Deg a'i ddirprwyo yn eu absenoldeb. Bydd angen cymwysterau a phrofiad perthnasol o reoli mewn lleoliadau gofal plant yn ogystal â llawer o frwdfrydedd ac angerdd i gefnogi plant a theuluoedd yn y gymuned. Byddwch yn gyfrifol am reoli a threfnu gweithredol y lleoliad gofal plant, ynghyd â'r Rheolwr Dechrau'n Deg, a byddwch yn rheoli ac yn cefnogi tîm gofal plant Dechrau'n Deg er mwyn helpu i gynnal y safonau uchel sydd eisoes wedi'u sefydlu.
Mae ffurflenni cais ar wefan cyngor Abertawe, gwiriwch y cymwysterau perthnasol. Mae'r ddolen ar gyfer y fframwaith cymwysterau yn https://socialcare.wales/resources/list-of-required-qualifications-to-work-within-early-years-and-childcare-sector-in-wales
Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u llenwi i'r cyfeiriad ysgol uchod, naill ai'n bersonol neu drwy'r post. Os ydych chi'n dychwelyd drwy'r post, gwnewch yn siŵr eich bod yn atodi'r tâl post cywir gan y gallai postio anghywir olygu nad yw'ch cais yn ein cyrraedd.
Bydd y swydd yn dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn gwiriad DBS dilys a geirdaon addas.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw - dydd Gwener 26 Medi am 12.00pm
I drefnu ymweliad â'r lleoliad cysylltwch â Nicola Tasker ar 01792 841164
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol