Toglo gwelededd dewislen symudol

Uwchraddio rhannau sy'n weddill o lwybr arfordir poblogaidd

Mae cynlluniau ar waith i ddechrau uwchraddio llwybr cerdded arfordirol poblogaidd ym mhenrhyn Gŵyr ym mis Hydref.

limeslade cost path

Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn uwchraddio rhannau o Lwybr Arfordir Gŵyr rhwng Rotherslade a Limeslade am nifer o flynyddoedd.

Mae dwy ran fer (310 metr), rhwng y ddau gyrchfan arfordirol sydd heb eu huwchraddio o hyd a bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2025.

Bydd y gwaith uwchraddio arfaethedig yn golygu y bydd rhannau o'r llwybr rhwng Limeslade a Rotherslade yn cau dros dro a bydd arwyddion dargyfeirio ar waith.

Crëwyd rhan 450 metr newydd sbon o'r llwybr ym mis Mawrth eleni, a hynny ar ben rhan flaenorol, a oedd yn ymestyn am 270 metr arall, a gwblhawyd yn 2022.

Crëwyd y ddwy ran newydd fel dargyfeiriad o'r llwybr gwreiddiol, y mae erydu arfordirol wedi effeithio arno. Ariannwyd y gwelliannau drwy gynllun grantiau Llwybr Arfordir Cymru Llywodraeth Cymru.

Nawr, mae'r cyngor yn buddsoddi £80,000 i gwblhau'r ddwy ran olaf fel rhan o'i gynlluniau cyffredinol i gynnal ffyrdd a llwybrau cerdded ar draws Abertawe.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn gaffaeliad hynod boblogaidd i'r ddinas. Mae miloedd o bobl yn cerdded yno bob blwyddyn.

"Gwaetha'r modd, mae erydu arfordirol wedi effeithio ar y rhan rhwng Limeslade a Rotherslade yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydym wedi gwneud popeth posib i greu rhannau newydd a dargyfeirio'r llwybr o'r ardal dan sylw.

"Mae hyn hefyd wedi rhoi'r cyfle i ni greu llwybr cerdded mwy hygyrch i bawb.

"Mae dwy ran fer sydd heb eu huwchraddio eto, ac er nad yw erydu arfordirol wedi effeithio arnynt, byddent yn elwa o waith uwchraddio tebyg i weddill y llwybr, gan ddarparu gwell mynediad i deuluoedd sy'n defnyddio cadeiriau gwthio a phobl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn.

"Rydym wedi dewis buddsoddi rhan o'n cyllideb priffyrdd a thrafnidiaeth i alluogi'r gwaith gwella i fynd rhagddo."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Medi 2025