Uwch Swyddog Cynllun Busnes HRA (dyddiad cau: 03/10/25)
£46,142 - £50,269 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol deinamig a blaengar i arwain rheolaeth ariannol y gwasanaeth Tai, gyda phwyslais cryf ar arloesi TG a chynllunio strategol. Mae profiad o weithio gyda systemau rheoli tai a dehongli data sy'n gysylltiedig â thai yn ddymunol iawn.
Teitl y swydd: Uwch Swyddog Cynllun Busnes HRA
Rhif y swydd: PL.67513-V1
Cyflog: £46,142 - £50,269 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Uwch Swyddog Cynllun Busnes HRA (PL.67513-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 290 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.67513-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 3 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Rydym yn chwilio am arweinydd rhagweithiol ac arloesol i oruchwylio gweithrediadau ariannol a TG y gwasanaeth Tai, gyda ffocws allweddol ar yrru datblygiadau digidol a datblygiad strategol.
Mae cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- Gyrru datblygiad a monitro Cynllun Busnes HRA, sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Llywodraeth Cymru a galluogi penderfyniadau buddsoddi strategol gwybodus.
- Rheoli cyllidebau refeniw a chyfalaf blynyddol, goruchwylio'r broses gosod rhent yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, ac arwain y swyddogaeth cyfrifyddu rhent, gan gynnwys cyfranogiad archwilio a chysoni diwedd y flwyddyn.
- Dadansoddi data perfformiad ariannol, gwerthuso tueddiadau a modelu hyfywedd i gefnogi rheoli risg o amgylch rhent, dyled drwg, a lefelau gwag.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Arwain ymchwil a datblygu TG ar draws meysydd gwasanaeth tai, gan nodi cyfleoedd i wella profiad cwsmeriaid a moderneiddio llifoedd gwaith staff.
- Cydlynu caffael a gweithredu datrysiadau TG, gan sicrhau bod cyflwyno caledwedd a meddalwedd yn cyd-fynd ag anghenion gwasanaeth ac yn cefnogi darparu effeithlon.
Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd ag angerdd am gyllid tai a thrawsnewid digidol gael effaith ystyrlon.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Aimee Dyer, Rheolwr Cynllun Busnes a Chyllid Tai HRA (Aimee.Dyer@swansea.gov.uk).
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol