Uwch Beiriannydd Draenio (dyddiad cau: 08/10/25)
£40,777 - £45,091 y flwyddyn. Mae'r rôl hon yn swydd barhaol sy'n gweithio 37 awr yr wythnos. Rydym yn chwilio am Uwch Beiriannydd Draenio medrus a chymhellol i ymuno â'r tîm Cynnal a Chadw Priffyrdd.
Teitl y swydd: Uwch Beiriannydd Draenio
Rhif y swydd: PL.73951
Cyflog: £40,777 - £45,091 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Uwch Beiriannydd Draenio (PL.73951) Disgrifiad Swydd (PDF, 281 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73951
Dyddiad cau: 11.45pm, 8 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Yn y rôl hon, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli perygl llifogydd ar draws Dinas a Sir Abertawe, gan sicrhau bod dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am fwrw ymlaen â Chynllun Rheoli Perygl Llifogydd yr Awdurdod a datblygu atebion peirianneg dechnegol i liniaru llifogydd mewn cymunedau agored i niwed. Byddant yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Gyfalaf Draenio Priffyrdd, gan sicrhau bod prosiectau'n cael eu cwblhau o fewn y gyllideb ac yn ôl manyleb. Mae'r rôl yn cynnwys darparu cyngor technegol arbenigol ar gynigion draenio, gan gynnwys cymeradwyaethau a chaniatâd ffurfiol, a gweithredu fel ymgynghorydd ar faterion draenio ar gyfer datblygwyr, adrannau mewnol, ac awdurdodau rheoli risg eraill.
Am ragor o fanylion cysylltwch â Chris Pike ar 07919626331
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol