Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Penyrheol: Athro Gwyddoniaeth

(dyddiad cau: 06/10/25 am 3pm). (Cymysg) (865 ar y gofrestr) (Ystod Oedran 11-16). Athro Gwyddoniaeth (0.6) - Dau Dymor yn y Lle Cyntaf o fis Ionawr 2026 (MPS/UPS)

Ysgol Gyfun Penyrheol
Heol Pontarddulais
Gorseinon
Abertawe 
SA4 4FG

Mae gennym gyfle cyffrous i ymarferydd deinamig a brwdfrydig ymuno â'n hAdran Wyddoniaeth lwyddiannus. Mae'r swydd hon ar gyfer dau dymor yn y lle cyntaf. Os ydych chi'n credu bod gennych y cymwysterau, y wybodaeth a'r rhinweddau personol perthnasol, hoffem glywed gennych.

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o www.swansea.gov.uk

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i'r cyfeiriad uchod neu eu hanfon drwy e-bost at sciencejobs@penyrheol-comp.swansea.sch.uk

Dyddiad Cau: 3:00 pm Dydd Llun 6 Hydref 2025
Rhestr fer: Dydd Mercher 8 Hydref 2025
Cyfweliadau: Dydd Gwener 10 Hydref 2025

Amcan yr amserlen apwyntiadau yw hysbysu ymgeiswyr o'r dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd.  Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn dydd Iau 9 Hydref gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn.

Datganiad Diogelu

Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch 

Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2025