Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gyfun Penyrheol: Athro Cerddoriaeth

(dyddiad cau: 07/10/25 am 3pm). (Cymysg) (865 ar y gofrestr) (Ystod Oedran 11-16). Athro Cerddoriaeth (0.6) - Parhaol o fis Ionawr 2026 (MPS/UPS)

Ysgol Gyfun Penyrheol
Ffordd Pontarddulais
Gorseinon
Abertawe 
SA4 4FG

Mae gennym gyfle cyffrous i ymarferydd brwdfrydig ac ymroddedig ymuno â'n hAdran Gerddoriaeth lwyddiannus. Mae'r swydd hon yn barhaol o fis Ionawr 2026. Os ydych chi'n credu bod gennych y cymwysterau, y wybodaeth a'r rhinweddau personol perthnasol, hoffem glywed gennych.

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Mae ffurflenni cais a manylion ar gael i'w lawrlwytho o'n tudalen ar www.eteach.com. Yn ogystal, gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r pecyn gwybodaeth o www.swansea.gov.uk

Ffurflenni cais i'w dychwelyd i'r cyfeiriad uchod neu eu hanfon drwy e-bost at musicjobs@penyrheol-comp.swansea.sch.uk

Dyddiad Cau: 3:00 pm Dydd Mawrth 7 Hydref 2025
Rhestr fer: Dydd Iau 9 Hydref 2025
Cyfweliadau: Dydd Llun 13 Hydref 2025

Amcan yr amserlen apwyntiadau yw hysbysu ymgeiswyr o'r dyddiadau y bydd yr ysgol yn gweithio iddynt ar gyfer y swydd wag a hysbysebwyd.  Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cael cynnig cyfweliad erbyn dydd Gwener 10 Hydref gymryd yn ganiataol nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus yn yr achos hwn. 

Datganiad Diogelu

Mae'r swydd hon yn destun gwiriad DBS uwch 

Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2025