Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Sea View: Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg

(dyddiad cau: 16/10/25). £26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn (Gradd 5). 35 awr yr wythnos, tymor yn unig (40 wythnos).

Mae Sea View Flying Start yn ceisio penodi gweithiwr gofal plant brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'u tîm i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel i blant yn y gymuned leol rhwng 2 a 3 oed. 

Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gymhwyster gofal plant Lefel 3 a bod â phrofiad ôl-gymhwyso i gael ei ystyried ar gyfer y swyddi. Dewch o hyd i restr o gymwysterau gofal plant a dderbynnir ar https://socialcare.wales/qualifications-funding/qualification-framework/job-roles/flying-start 

Mae'r rhain yn cynnwys;

  • Diploma Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru a Gogledd Iwerddon) QCF
  • Diploma Estynedig CACHE mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Tystysgrif Addysg Uwch y Brifysgol Agored (CertHE) (FHEQ Lefel 4) mewn Ymarfer Proffesiynol Blynyddoedd Cynnar
  • Tystysgrif/Diploma Cenedlaethol EDEXCEL BTEC Lefel 3
  • Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD)

1 x 35 awr yr wythnos; 40 wythnos y flwyddyn; Gweithiwr Gofal Plant yn Sea View Flying Start.

Dyddiad cau: 11.45pm, 16 Hydref 2025

Ysgol Gynradd Sea View - Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg - Disgrifiad swydd (PDF, 297 KB)

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Mae'r swydd yn destun gwiriad DBS uwch.

Am ragor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Claire Morgan ar 01792 468805

Dychwelwch eich cais at Claire Morgan - Sea View Flying Start, Ysgol Gynradd Gymunedol Sea View, neu drwy e-bost yn Claire.morgan4@swansea.gov.uk / Morganc866@hwbcymru.net.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Hydref 2025