Ailwynebwyd wyth cilomedr o ffordd ar hyd Gower Road
Mae Cyngor Abertawe'n gwneud cynnydd da iawn gyda'i waith i uwchraddio ffyrdd ar draws y ddinas.

Mae timau priffyrdd yn cwblhau'r gwaith o ail-wynebu prif lwybr i ogledd Gŵyr (y B4295) rhwng Llanmorlais a Llanrhidian ar hyn o bryd.
Bydd y gwaith ail-wynebu'n cynnwys bron tri chilomedr o ffordd a bydd yn mynd rhagddo dros nos er mwyn osgoi llawer o darfu ar fodurwyr.
Mae'r gwelliannau ffyrdd hefyd yn dilyn gwaith tebyg a wnaed dros yr haf ar hyd yr un ffordd yn dilyn ail-wynebu 2.4km o ffordd ym Mhen-clawdd a Llanmorlais a 2.6km pellach rhwng Llanrhidian ac Oldwalls.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r ffordd drwy Ben-clawdd tuag at Lanrhidian yn boblogaidd iawn gyda phreswylwyr a thwristiaid sy'n ymweld â Gŵyr. Mae angen i ni sicrhau bod y llwybr yn cael ei gynnal a'i fod yn ddiogel i bawb.
"Bydd y gwaith diweddaraf yn golygu bod y ffordd hon wedi elwa o bron 8 cilomedr o welliannau arwyneb.
"Rydym yn cwblhau'r gwaith gwella dros nos i osgoi tarfu ar fodurwyr sy'n teithio drwy'r ardal."
Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, bydd timau gwella priffyrdd y cyngor yn symud ymlaen i gynlluniau ffyrdd sylweddol eraill yn Birchgrove Road yng Ngellifedw a Mill Street yn Nhregŵyr.
Bydd angen cau ffyrdd yn ystod y gwaith ar y ddau gynllun ac mae'r cyngor yn sicrhau y bydd y gwaith yn cael ei wneud dros nos i leihau tarfu ar breswylwyr yn y ddwy gymuned.
Gwnaeth y cyngor gyhoeddi manylion y ffyrdd yn Abertawe y byddai'n eu gwella yn ystod y cyfnod o 12 mis o fis Mawrth 2025. Mae'r holl waith yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd gan y cyngor mewn isadeiledd priffyrdd.
Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Mae ein cynlluniau gwella priffyrdd ar gyfer 2025/26 yn cynnwys gwelliannau sylweddol i rannau poblogaidd o ffyrdd ar draws y ddinas sy'n cael eu defnyddio'n aml.
"Mae'r ffyrdd a nodwyd ar gyfer cynlluniau ail-wynebu llawn wedi cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar arolygiadau priffordd rheolaidd ac fe'u haseswyd fel ffyrdd y bydd angen eu hatgyweirio o fewn y 12 mis nesaf.
"Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd llawer o'r gwaith yn cael ei gwblhau dros nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar y cyhoedd sy'n teithio."
Gall preswylwyr weld y rhestr o ffyrdd a fydd yn cael eu gwella yn https://www.abertawe.gov.uk/ailwynebuffyrdd