Toglo gwelededd dewislen symudol

Siopau fêps yn cael eu cau ledled Abertawe am werthu nwyddau anghyfreithlon

Mae siopau fêps ledled Abertawe wedi cael eu cau gan Safonau Masnach ar ôl cael eu dal yn gwerthu fêps anghyfreithlon a thybaco ffug, a chredir bod llawer ohonynt yn eu gwerthu i blant ifanc.

operation ceecee vapes

 

 

Yn ddiweddar, arweiniodd tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe ymgyrch Ceecee a Marvel dros dridiau, gyda chymorth swyddogion Heddlu De Cymru, CThEF, swyddogion Mewnfudo'r Swyddfa Gartref, yn ogystal â thriniwr cŵn sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddod o hyd i dybaco.

Yn ystod y tridiau, targedodd swyddogion gyfanswm o 14 o siopau ledled y ddinas lle cynhaliwyd profion prynu a lle prynwyd cynhyrchion anghyfreithlon yn llwyddiannus yn flaenorol.

Mae'r ymgyrch a arweinir gan wybodaeth wedi arwain at gau naw safle dros dro. Arestiodd yr heddlu hefyd 11 o unigolion a oedd yn gysylltiedig â'r gwerthiannau anghyfreithlon.

Yn dilyn y cyrchoedd, atafaelwyd 971 pecyn o sigaréts (gwerth ffug o £4,855, gwerth manwerthu o £15,000), 970 pecyn o dybaco rholio â llaw (gwerth ffug o £19,500, gwerth manwerthu o £39,000) a 2,292 o fêps (gwerth £23,000) a byddant bellach yn cael eu dinistrio.

Mae pum cerbyd, a ddefnyddiwyd i storio nwyddau anghyfreithlon ac sy'n gysylltiedig â'r gwahanol siopau, hefyd wedi'u hatafaelu.

Ers hynny, mae'r tîm Safonau Masnach wedi gwneud cais i Lys yr Ynadon am gyfnodau cau hirach ac mae dau o'r naw sefydliad bellach wedi'u cau am hyd at dri mis.

Meddai Andrew Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol (Perfformiad) yng Nghyngor Abertawe, "Mae'r cyngor hwn yn cymryd gwerthiant fêps anghyfreithlon a thybaco ffug yn Abertawe o ddifrif.

"Mae ein tîm Safonau Masnach wedi rhoi blaenoriaeth i'r mater hwn ac mae wedi gallu casglu llawer iawn o wybodaeth o ran pa siopau yn y ddinas sydd wedi bod yn gwerthu nwyddau anghyfreithlon i ddefnyddwyr yn y gorffennol, gan gynnwys plant.

"Mae'r ymgyrch ddiweddaraf wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran ein hymdrechion i atal y math hwn o fasnach ac rydym yn gobeithio y bydd yn anfon neges gref iawn at fusnesau eraill yn y ddinas, gan bwysleisio bod ganddyn nhw ddyletswydd i sicrhau eu bod yn masnachu'n gyfreithlon, heb beryglu defnyddwyr.

"Hoffwn ddiolch i'n tîm Safonau Masnach, yn ogystal â'r asiantaethau eraill a'n cefnogodd ni."

Dywedodd yr Arolygydd Andrew Hedley, Heddlu De Cymru, "Mae tybaco a fêps ffug yn anghyfreithlon, ond maen nhw'n hynod beryglus i'r rhai sy'n eu defnyddio hefyd.

"Nid yw sigaréts ffug wedi eu rheoleiddio, maent yn beryglus ac maent yn ariannu troseddau cyfundrefnol.  Nid yw'r fêps a atafaelwyd yn cydymffurfio â safonau diogelwch y DU a gallant beri risg i iechyd defnyddwyr.

"Rhoddwyd rhybuddion i'r holl fusnesau hyn i roi'r gorau i werthu'r eitemau hyn ond fe'u hanwybyddwyd. O ganlyniad, byddant nawr yn wynebu erlyniad am wahanol droseddau."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Hydref 2025