Toglo gwelededd dewislen symudol

Prif Syrfëwr Adnewyddu ac Addasu Tai (dyddiad cau: 21/10/25)

£40,777 - £45,091 y flwyddyn. Parhaol ac amser llawn. Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am syrfëwr brwdfrydig, hunan-gymhellol a phrofiadol i gynorthwyo i reoli gwasanaethau Adnewyddu ac Addasu Tai. Mae hyn yn cynnwys arwain ar y swyddogaethau technegol sy'n gysylltiedig â darparu addasiadau tai a grantiau / benthyciadau eraill, cymorth ar gyfer atgyweirio tai sector preifat a chymorth eiddo gwag.

Teitl y swydd: Adnewyddu ac Addasiadau Tai Prif Syrfëwr
Rhif y swydd: PL.69797
Cyflog: £40,777 - £45,091 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Adnewyddu ac Addasu Tai Prif Syrfëwr (PL.69797) Disgrifiad Swydd (PDF, 280 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.69797

Dyddiad cau: 11.45pm, 21 Hydref 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae Tîm Adnewyddu ac Addasu Tai y Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu addasiadau i'r anabl a mathau eraill o grantiau tai a chymorth benthyciadau i gleientiaid agored i niwed i'w galluogi i barhau i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Bydd y Prif Syrfëwr yn gyfrifol am reoli timau amlddisgyblaethol arbenigol o swyddogion sy'n canolbwyntio ar ddarparu Addasiadau i'r Anabl mewn Tai'r Sector Preifat a stoc Tai y Cyngor a grantiau/benthyciadau atgyweirio tai. 

Bydd y Prif Syrfëwr yn cynorthwyo rheolwyr ar bob agwedd ar ddarparu gwasanaethau ac yn darparu cymorth i'r Rheolwr Cynllunio a Chyflenwi Rhaglenni - Adnewyddu ac Addasiadau. Mae dyletswyddau'n cynnwys rheoli'r swyddogaethau technegol Addasiadau ac Adnewyddu Tai a thimau Gwasanaeth Asiantaeth mewnol.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyflawni dyletswyddau arolygu gan gynnwys arolygon eiddo, paratoi lluniadau, manylebau, amserlenni gwaith a dogfennaeth dendro arall. Paratoi cymeradwyaethau grantiau, amrywiadau, cyfrifon terfynol a thaliadau ac archwilio'r gwaith sydd ar y gweill i sicrhau safonau gwaith priodol.

Mae hwn yn gyfle cyflogaeth cyffrous i syrfëwr sy'n edrych i ddatblygu sgiliau a phrofiad goruchwylio / rheoli. Bydd yr ymgeisydd angen sgiliau cyfathrebu da, ymrwymiad i weithio mewn tîm ac agwedd gadarnhaol at ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â naill ai Darren Williams, Rheolwr Cynllunio a Chyflawni Rhaglenni, Adnewyddu ac Addasiadau neu Thomas Walker, Cydlynydd Addasiadau Tai ar Ffôn 01792 635330.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Hydref 2025