Swyddog Comisiynu Gweithredol (dyddiad cau: 21/10/25)
£46,142 - £50,269 y flwyddyn. Mae Cyngor Abertawe yn chwilio am Swyddog Comisiynu sy'n angerddol am gomisiynu ar sail canlyniadau a rhoi plant yn gyntaf. Yn y rôl strategol hon, byddwch yn arwain cynllunio, datblygu a monitro gwasanaethau sy'n cefnogi plant a theuluoedd, gan sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei yrru gan anghenion a lleisiau plant.
Teitl y swydd: Swyddog Comisiynu Gweithredol
Rhif y swydd: SS.73964
Cyflog : £46,142 - £50,269 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Comisiynu Gweithredol (SS.73964) Disgrifiad Swydd (PDF, 297 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73964
Dyddiad cau: 11.45pm, 21 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Bydd eich effaith yn cynnwys:
- Arwain tîm i gomisiynu gwasanaethau sy'n darparu canlyniadau mesuradwy, cadarnhaol i blant a phobl ifanc.
- Defnyddio data, adborth, ac arfer gorau i sicrhau bod pob gwasanaeth yn effeithiol, arloesol, ac yn ymatebol i anghenion newidiol plant.
- Adeiladu partneriaethau cryf gyda darparwyr a gweithwyr proffesiynol i gyd-ddylunio gwasanaethau sy'n grymuso plant i ffynnu.
- Hyrwyddo hawliau a lleisiau plant ym mhob agwedd ar gomisiynu, gan sicrhau bod eu profiadau yn llywio datblygiad gwasanaethau.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr gyda:
- Cymwysterau mewn busnes, rheoli, neu brofiad cyfatebol
- Arbenigedd profedig mewn comisiynu, caffael a rheoli contractau
- Sgiliau arweinyddiaeth, dadansoddol a chyfathrebu cryf
- Ymrwymiad i ymarfer sy'n canolbwyntio ar y plentyn a gwelliant parhaus
Ymunwch â ni i helpu i greu gwasanaethau sy'n galluogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial. Mae'r swydd hon yn gofyn am wiriad DBS ac ymrwymiad i ddiogelu.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â'r swydd hon, cysylltwch â Dave Rossiter trwy Dave.Rossiter@swansea.gov.uk
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol