Gweithiwr Cymorth Cynnar y Blynyddoedd Cynnar (dyddiad cau: 24/10/25)
£28,142 - £31,022 y flwyddyn. Os oes gennych angerdd dros gefnogi plant a'u teuluoedd i gyrraedd eu potensial llawn a darparu'r dechrau gorau mewn bywyd iddynt, efallai y bydd Cyngor Abertawe yn cael y cyfle perffaith i chi. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n Tîm Cymorth Blynyddoedd Cynnar.Fel rhan o'n hwb amrywiol ac amlddisgyblaethol, byddwch yn annog teuluoedd i ymgysylltu a meithrin chwarae, iaith a datblygiad cyfannol eu plentyn. ae'r swydd hon yn gyfnod penodol i'r 31 o Fawrth 2028 yn y lle cyntaf.
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Cynnar Blynyddoedd Cynnar
Rhif Swydd: SS.66152-V2
Cyflog: £28,142 - £31,022 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymorth Cynnar Blynyddoedd Cynnar (SS.66152-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 313 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.66152-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 24 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae'r Tîm Blynyddoedd Cynnar yn eistedd o fewn strwythur yr Hwb Cymorth Cynnar yn Abertawe i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael mynediad at y cymorth cywir ar yr adeg iawn gan y person cywir waeth beth fo'u hoedran a'u lleoliad.
Mae'r Hybiau Cymorth Cynnar yn gweithio gan ddefnyddio'r fframwaith arwyddion lles sy'n cefnogi llesiant gan ddefnyddio strwythur canolfan lleol ac un pwynt cyswllt i weithwyr proffesiynol.
Mae'r gweithiwr Blynyddoedd Cynnar, Cymorth Cynnar (EYEH) yn cefnogi teuluoedd i sefydlu a gwella sgiliau sy'n eu galluogi yn well i helpu eu plentyn i gyrraedd eu cerrig milltir datblygiadol. Annog teuluoedd i ymgysylltu a hyrwyddo chwarae, iaith a datblygiad cyfannol eu plentyn.
Bydd gweithiwr EYEH yn cefnogi ac yn sgaffalu dysgu, gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o'r sector blynyddoedd cynnar, gwaith chwarae a gofal plant fel rhan o'r llwybr blynyddoedd cynnar ac yn gallu darparu ystod o wasanaethau a chyfleoedd i blant 0 - 11 oed.
Bydd gweithiwr EYEH yn darparu rhaglenni sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymarfer, cyfleoedd chwarae ac ymyriadau yn ogystal â dulliau teulu cyfan, trwy sesiynau chwarae mynediad agored, gwaith grŵp ac un i un.
Bydd gweithiwr EYEH hefyd yn cefnogi ac yn darparu darpariaeth ar gyfer plant ag anableddau sy'n dod i'r amlwg neu sydd wedi cael diagnosis.
Mae'r swydd hon yn gyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2028 yn y lle cyntaf ond bydd yn cael ei hymestyn yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
Am drafodaeth anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Tracie Jennett ar 01792 635400.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol