Gweithiwr Cymorth Dydd (dyddiad cau: 27/10/25)
£26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Dydd Anghenion Arbennig Parkway yn chwilio am berson llawn cymhelliant, brwdfrydig a gofalgar i weithio ar sail 1:1 gydag unigolyn ag anghenion cymhleth o fewn Gwasanaeth Dydd sefydledig, 30 awr yr wythnos, 5 diwrnod yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener. Mae hon yn rôl 1:1 sy'n cefnogi defnyddiwr gwasanaeth benywaidd, felly mae angen deiliad swydd benywaidd.
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd
Rhif y swydd: SS.73954
Cyflog: £26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd (SS.73954) Disgrifiad Swydd (PDF, 289 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73954
Dyddiad cau: 11.45pm, 27 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Oherwydd natur y gwasanaeth, rydym yn chwilio am berson i weithio ar sail 1:1 gydag unigolyn ag anabledd dysgu dwfn ac anghenion cymhleth. Byddai profiad o Drin â Llaw, Gofal Personol, Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol, Epilepsi a Gweinyddu Meddyginiaeth yn hanfodol. Mae parodrwydd i weithio fel rhan o dîm staff i gefnogi'r defnyddiwr gwasanaeth i ddilyn ystod o weithgareddau dyddiol iddynt gyflawni eu canlyniadau y cytunwyd arnynt yn hanfodol.
Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus angen NVQ/QCF Lefel 2 mewn Gofal Cymdeithasol neu byddai'n fodlon gweithio tuag at y cymhwyster proffesiynol hwn.
Byddech yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd, disgwylir i chi ymgymryd ag ystod o gyfleoedd hyfforddi, a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y gwasanaeth. Byddai'n ofynnol i chi feddu ar drwydded yrru lawn, cael yswiriant busnes, a bod yn berchennog car. Efallai y gofynnir i chi weithio mewn gwasanaethau eraill pan fo angen.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol