Y Tîm Parciau'n gweithio'n ofalus i gael gwared ar goeden wedi cwympo mewn mynwent leol
Mae stormydd ar draws De-orllewin Cymru wedi arwain at ddifrod i fynwent yn Abertawe'n ddiweddar.

Effeithiwyd ar Fynwent Rhydgoch sy'n eiddo i Gyngor Abertawe yn ystod yr wythnosau diwethaf wrth i goeden fawr gwympo mewn rhan o'r fynwent.
Mae'r goeden sydd wedi cwympo bellach yn gorwedd ar draws nifer o gerrig beddi, sydd wedi golygu bod Tîm Parciau'r Cyngor wedi mabwysiadu dull mwy gofalus i symud y goeden heb achosi difrod pellach i'r cerrig beddi.
Er y symudwyd nifer o ganghennau llai bellach i leihau cyfanswm pwysau'r goeden, mae'r tîm yn aros i gael craen ar y safle i godi'r goeden o'r ardal.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Ar hyn o bryd, mae'r goeden sydd wedi cwympo'n gorwedd ar draws nifer o gerrig beddi ac mae'n eithaf sefydlog.
"Rydym yn cymryd ein hamser wrth ei symud er mwyn peidio ag achosi mwy o ddifrod. Mae hyn yn golygu gweithio'n drefnus i osgoi symud cyff y goeden yn afreolus yn ogystal ag ystyried diogelwch ein gweithwyr parciau i weithio gyda ffurf mor fawr.
"Disgwylir i graen gyrraedd i godi cyff y goeden yn ddiogel o'r fynwent, ond bydd yn cymryd peth amser iddo gyrraedd.
"Rydym yn deall pa mor ofidus y gall hyn fod i deuluoedd, ac rydyn ni eisiau eu sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn.
"Pan fydd y goeden wedi symud, byddwn yn gallu cynnal asesiad llawn o unrhyw ddifrod a achoswyd a byddwn yn cysylltu â'r teuluoedd hynny y mae'r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt.
"Mae'r fynwent ar agor o hyd i'r cyhoedd ond gofynnwn fod unrhyw deuluoedd sy'n ymweld â Rhydgoch yn osgoi'r ardal lle mae'r goeden wedi cwympo."