Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Trwyddedu HMO (dyddiad cau: 03/11/25)

£28,142 - £31,022 y flwyddyn. Rydym yn ceisio recriwtio Swyddog Trwyddedu HMO i weithio o fewn Tîm Tai y Sector Preifat yng Nghyngor Abertawe. Gan weithio yn bennaf mewn swydd weinyddol, byddwch yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth trwyddedu HMO effeithlon er mwyn diogelu iechyd, diogelwch a lles y cyhoedd.

Teitl y swydd: Swyddog Trwyddedu HMO
Rhif y swydd: PL.73991
Cyflog: £28,142 - £31,022 y flwyddyn
Disgrifiad swyddSwyddog Trwyddedu HMO (PL.73991) Disgrifiad Swydd. (PDF, 297 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.73991

Dyddiad cau: 11.45pm, 3 Tachwedd 2025

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn chwilio am berson trefnus a chymhellol i weithio mewn tîm prysur sy'n cyflawni'r ystod lawn o waith tai sector preifat.  Bydd y rôl yn darparu cymorth a swyddogaethau gweinyddol ar gyfer cymhwyso a gorfodi Polisi Trwyddedu HMO.  Yn gallu dysgu tasgau yn gyflym a chwrdd â dyddiadau cau, bydd deiliad y swydd yn darparu'r safonau uchaf o ofal cwsmeriaid, effeithlonrwydd a sylw i fanylion.  Mae dealltwriaeth dda o brosesau ariannol, profiad o ddelio â'r cyhoedd a sgiliau TGCh yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

Bydd deiliad y swydd hon yn gyfrifol am amrywiaeth o dasgau, gan gynnwys y canlynol:

  • Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i'r cyhoedd ar ymholiadau trwyddedu HMO ac ateb ymholiadau sy'n ymwneud â rheoliadau, gweithdrefnau a chanllawiau trwyddedu HMO.
  • Cyflawni swyddogaethau gweinyddol sy'n ymwneud â thrwyddedu HMO gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, derbyn a chofnodi ceisiadau a gyflwynwyd, cyhoeddi hysbysiadau dod i ben trwyddedau, diweddaru cronfeydd data, cymryd taliadau am ffioedd trwydded a mynd ar drywydd ceisiadau, ffioedd a dogfennau sy'n weddill.
  • Ymweld â thai posibl mewn amlfeddiannaeth er mwyn pennu eu statws trwyddedu ac ymweld â HMOs trwyddedig i wirio cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio.
  • Darparu datganiadau ysgrifenedig, adroddiadau, gohebiaeth a hysbysiadau gorfodi ynghylch statws trwyddedu HMO a chyflwr eiddo unigol ac i roi tystiolaeth yn y llys, tribiwnlysoedd ac yn y Pwyllgor Trwyddedu os oes angen.
  • Cadw cofnodion cywir o'r holl weithgareddau trwyddedu a chysylltiad â chwsmeriaid yn unol â'r gweithdrefnau, gan gynnwys cynnal cronfeydd data a chofrestrau.
  • Cynorthwyo i ddiweddaru dogfennau a thudalennau gwe perthnasol.
  • Sefydlu a chynnal perthynas waith dda gyda meysydd gwasanaeth eraill y Cyngor ac asiantaethau allanol er mwyn nodi HMOs trwyddedadwy a hyrwyddo arferion gwaith da.
  • Monitro cronfeydd data a rhedeg adroddiadau at ddibenion rheoli llwyth achosion effeithiol neu fonitro perfformiad. 
  • Cwrdd â thargedau a dyddiadau cau yn unol â dangosyddion perfformiad personol a thîm fel y'u gosodir gan y Rheolwr Rhanbarthol.
  • Cynnal datblygiad personol i fodloni gofynion newidiol y swydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddi priodol. 

Bydd y rôl yn gweithio yn unol â'n polisi gweithio Hyblyg gyda gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref ond bydd yn ofynnol iddi hefyd deithio i leoliadau eraill o fewn a thu allan i ffin Dinas a Sir Abertawe.  Bydd ymweliadau â lleoliadau ac adeiladau allanol i fynychu cyfarfodydd / cynnal ymweliadau ac arolygiadau.  Bydd gwaith ar y safle yn aml yn waith unigol a gall fod yn amodau tywydd garw.

Diogelu
Within Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Hydref 2025