Swyddog Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (dyddiad cau: 31/10/25)
£28,142 - £31,022 y flwyddyn. Mae hon yn swydd amser llawn, Parhaol ar 37 awr yr wythnos. Mae hwn yn gyfle delfrydol i'r rhai sydd â chefndir Tai, Cymorth neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n mwynhau gweithio gyda Phobl Hŷn.
Teitl y swydd: Swyddog Gwasanaethau Byw'n Annibynnol
Rhif y swydd: PL.0189-V2
Cyflog: £28,142 - £31,022 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Gwasanaethau Byw'n Annibynnol (PL.0189-V2) Disgrifiad Swydd (PDF, 314 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0189-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 31 Hydref 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae hon yn swydd rheng flaen sy'n darparu cymorth lefel isel i Bobl Hŷn sy'n byw yng Nghynlluniau Byw'n Annibynnol y Gwasanaeth Tai i'w galluogi i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Prif bwrpas rôl y Swyddog Gwasanaethau Byw'n Annibynnol yw cynnal ymweliadau â thenantiaid, cwblhau Cynlluniau Cymorth a chynnig cymorth sy'n gysylltiedig â thai.
Bydd deiliad y swydd yn cysylltu ag aelodau o'r teulu ac asiantaethau eraill ar ran tenantiaid. Mae gan ddeiliad y swydd hefyd gyfrifoldebau landlord ac mae'n rheolwr safle ar gyfer y safle, gan gyflawni dyletswyddau sy'n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch, gan gynnwys y rhai sy'n rhan o'r rheoliadau diogelwch tân. Yn ogystal, efallai y bydd gofyniad i ddarparu cymorth arnofiol lefel isel i Bobl Hŷn sy'n byw yn y gymuned.
Mae hwn yn gyfle delfrydol i'r rhai sydd â chefndir Tai, Cymorth neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n mwynhau gweithio gyda Phobl Hŷn.
Mae hon yn swydd amser llawn, barhaol ar 37 awr yr wythnos.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Sarah Sims, Rheolwr Gwasanaethau Byw'n Annibynnol ar 07773647021
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol