Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae atyniad gaeafol mwyaf Abertawe, Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa.

Mae'r adeg honno o'r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto, mae'r tymheredd yn gostwng ac mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn dychwelyd! Rhwng 21 Tachwedd a 4 Ionawr fydd Parc yr Amgueddfa'n cael ei drawsnewid unwaith eto'n wlad hudol Nadoligaidd.

Waterfront Winterland

Hefyd, yn newydd sbon ar gyfer 2025, bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau'n cynnig ardal wylio ger y llyn iâ ar gyfer y rheini y mae'n well ganddynt ymlacio gyda diod yn hytrach na sglefrio. Bydd hefyd gerddoriaeth fyw ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul a Drysfa Coed Nadolig.

Bydd y Pentref Alpaidd poblogaidd yn dychwelyd gydag ardal eistedd fwy er mwyn i ymwelwyr gymdeithasu, mwynhau'r adloniant byw a bwyd a diod Nadoligaidd gan gynnwys gwerthwyr bwyd newydd a fydd yn cynnig brechdanau lapio pwdin Swydd Efrog, bratwurst a goginiwyd ar ridyll, cwt coffi a stondin siocled poeth.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn falch iawn o groesawu Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn ôl am flwyddyn arall. Gyda nodweddion newydd cyffrous fel cerddoriaeth fyw a Drysfa Coed Nadolig, mae eleni'n addo bod yn ddigwyddiad poblogaidd iawn.

"Yn ogystal ag atyniadau sy'n dychwelyd fel Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Marchnad y Nadolig a'r orymdaith am ddim flynyddol, bydd y Nadolig yn Abertawe eleni'n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau cyffrous newydd i ddiddanu ymwelwyr a phreswylwyr.

"Mae'r Farchnad Nadolig Fictoriaidd yn newydd i'r calendr a bydd yn cynnwys amrywiaeth o anrhegion artisan, crefftau a danteithion tymhorol. Bydd yr Ŵyl Tân ac Iâ yn cynnal llwybr cerfluniau iâ ac amrywiaeth o sioeau a bydd Uchelwydd a Marchnadoedd, a gynhelir yn ein marchnad dan do arobryn, yn cynnig dau lwyfan llawn adloniant cyffrous Nadoligaidd. Bydd Nadolig 2025 yn un i'w chofio."

Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe'n agor ar 21 Tachwedd. Mae tocynnau ar werth ar gyfer y llyn iâ nawr yn www.swanseawaterfrontwinterland.cymru

Mae tocynnau ar gyfer y llyn iâ fel arfer yn gwerthu'n gyflym, yn enwedig ar gyfer y penwythnos. Argymhellir prynu tocynnau ar gyfer sglefrio iâ ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi. Mae mynediad cyffredinol i Barc yr Amgueddfa am ddim.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Tachwedd 2025