Ysgol Gyfun Penyrheol: Goruchwylwyr Arholiadau
(dyddiad cau: 19/12/25 am 3pm). Rydym yn edrych i benodi cronfa o oruchwylwyr arholiadau i weithio ar sail achlysurol yn ystod cyfnodau arholiadau. Byddwn yn gallu cynnig sesiynau bore a phrynhawn, a byddwch yn cael eich talu ar gyfradd o £12.85 yr awr.
Ysgol Gyfun Penyrheol
Ffordd Pontarddulais
Gorseinon
Abertawe
SA4 4FG
Mae'r gwaith yn cynnwys cynorthwyo staff i sefydlu lleoliadau arholi, goruchwylio arholiadau, casglu sgriptiau arholiadau a rhywfaint o waith gweinyddol sylfaenol. Gweler y disgrifiad swydd atodedig am ragor o wybodaeth. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus.
Beth sy'n gwneud goruchwyliwr da?
- Cywirdeb a sylw i fanylion
- Dull hyblyg o weithio
- Y gallu i gyfathrebu ag ymgeiswyr a staff
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm neu ar eich pen eich hun
- Dibynadwyedd a phrydlondeb
- Y gallu i gadw'n dawel o dan bwysau
Mae profiad o weithio gyda phlant neu mewn amgylchedd ysgol yn cael ei ffafrio ond nid yw'n hanfodol.
Ysgol Gyfun Penyrheol - Goruchwyliwr Arholiadau - Disgrifiad swydd (PDF, 226 KB)
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)
Datganiad Diogelu
Mae'r swydd hon yn destun Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Gwell.
Mae Ysgol Gyfun Penyrheol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol