Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Achos - Digartref Ieuenctid (dyddiad cau: 05/11/25)

£32,061 - £35,412 y flwyddyn. Mae gan Opsiynau Tai gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Gwaith Achos fel Gweithiwr Achos Digartrefedd Ieuenctid, sy'n gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth tai i aelwydydd 18-24 oed sy'n cyflwyno eu bod yn ddigartref, neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd.

Teitl y swydd: Gweithiwr Achos - Digartref Ieuenctid
Rhif Swydd: PL.0286-V1
Cyflog: £32,061 - £35,412 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Achos - Digartref Ieuenctid (PL.0286-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 292 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.0286-V1

Dyddiad cau: 11.45pm, 5 Tachwedd 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae'r Tîm Gwaith Achos wedi'i leoli o fewn Opsiynau Tai ac mae'n gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth tai i gleientiaid sy'n cyflwyno fel digartref neu mewn perygl o ddigartrefedd.

Bydd diwrnod arferol yn gweithio yn ein tîm yn cynnwys rheoli llwyth achosion, defnyddio dull person-ganolog i gynnal asesiadau tai manwl, cymryd camau i atal digartrefedd a gwneud penderfyniadau statudol ar ddigartrefedd. 

Gan weithio fel Gweithiwr Achos Digartrefedd Ieuenctid, byddwch yn cefnogi cleientiaid 18-24 oed i ddod o hyd i atebion i'w problemau tai a byddwch yn gwneud hyn drwy ddarparu cyngor a chymorth tai ac ariannol, cysylltu ag aelodau o'r teulu a landlordiaid a datblygu cynlluniau tai wedi'u personoli ar gyfer cwsmeriaid sy'n canolbwyntio'n gadarn ar atal digartrefedd. I'r rhai na ellir atal eu digartrefedd, byddwch yn gweithio i ddod o hyd i lety addas i alluogi symud ymlaen o lety dros dro cyn gynted â phosibl.

Bydd angen i chi fod yn drefnus iawn, yn empathig ac yn gyfforddus yn addasu i newid mewn amgylchedd cyflym. Mae sgiliau gweithio partneriaeth gref yn hanfodol, gan fod y rôl hon yn cynnwys cydweithrediad agos â chydweithwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n darparu'r gwasanaeth Bays+ i bobl ifanc. Byddwch hefyd yn cynrychioli Opsiynau Tai ar banel y Llwybr Llety â Chymorth, gan helpu i gydlynu lleoliadau ar gyfer pobl ifanc sydd angen tai â chymorth.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl, anfonwch e-bost at Sara Evans, Arweinydd Tîm Gwaith Achos, sara.evans@swansea.gov.uk

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Hydref 2025