Gweithiwr Achos Digartrefedd (dyddiad cau: 10/11/25)
£32,061 - £35,412 y flwyddyn. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Gwaith Achos mewn Opsiynau Tai fel Gweithiwr Achos Digartrefedd, sy'n gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth tai i aelwydydd sy'n cyflwyno eu bod yn ddigartref, neu sydd mewn perygl o ddigartrefedd.
Teitl y swydd: Gweithiwr Achos Digartrefedd
Rhif y swydd: PL.69544
Cyflog: £32,061 - £35,412 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Achos Digartrefedd (PL.69544) Disgrifiad swydd (PDF, 254 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y sywdd PL.69544
Dyddiad cau: 11.45pm, 10 Tachwedd 2025
Mwy o wybodaeth
Mae'r Tîm Gwaith Achos wedi'i leoli o fewn Opsiynau Tai ac mae'n gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth tai i gleientiaid sy'n cyflwyno fel digartref neu mewn perygl o ddigartrefedd.
Bydd diwrnod arferol yn gweithio yn ein tîm yn cynnwys rheoli llwyth achosion, defnyddio dull person-ganolog i gynnal asesiadau tai manwl, cymryd camau i atal digartrefedd a gwneud penderfyniadau statudol ar ddigartrefedd.
Gan weithio fel rhan o'r tîm generig, byddwch yn cefnogi cleientiaid i ddod o hyd i atebion i'w problemau tai a byddwch yn gwneud hyn drwy ddarparu cyngor a chymorth tai ac ariannol, cysylltu â landlordiaid a datblygu cynlluniau tai wedi'u personoli ar gyfer cwsmeriaid sy'n canolbwyntio'n gadarn ar atal digartrefedd.
I'r rhai na ellir atal eu digartrefedd, byddwch yn gweithio i ddod o hyd i lety addas i alluogi symud ymlaen o lety dros dro cyn gynted â phosibl.
Bydd angen i chi fod yn drefnus, yn empathig ac yn addasadwy i newid mewn amgylchedd gwaith prysur. Byddwch hefyd yn brofiadol mewn gweithio mewn partneriaeth.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Gemma Jenkins, Arweinydd Tîm Gwaith Achos gemma.jenkins2@swansea.gov.uk
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw busnes pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
