Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe : Athro Addysg Grefyddol - Dyniaethau
(dyddiad cau: 07/11/25) 12pm. Mae Corff Llywodraethu'r ysgol am benodi Athro Dyniaethau / Addysg Grefyddol. Rydym yn chwilio am berson sydd yn athro rhagorol, yn gallu ysbrydoli disgyblion a chydweithwyr, yn uchelgeisiol ac yn barod i ddatblygu strategaethau blaengar i gyfrannu at adran lwyddiannus.
Bydd cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus i addysgu Dyniaethau a chyfrannu at wersi Addysg Grefyddol yng NghA 3, 4 a 5.
Ers agor yn 2003, mae Bryn Tawe wedi ennill bri fel ysgol gartrefol, lwyddiannus ac uchelgeisiol ar gyfer eu holl ddisgyblion. Rydym wedi ein lleoli ar gyrion Dinas Abertawe, yn gyfleus iawn ar gyfer yr M4. Mae staff gweithgar a thalentog yr ysgol yn allweddol wrth yrru llwyddiannau'r ysgol yn ogystal â sicrhau'r ymdeimlad cryf o gymuned sydd yn bodoli yma.
Gyda datblygiadau cyffrous iawn ym myd addysg, â'r ffocws ar ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd, digidol a meddwl dwfn disgyblion, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y cyfle i ysgogi, i ysbrydoli ac i arfogi ein disgyblion â'r medrau hanfodol ar gyfer dyfodol llwyddiannus.
Rydym yn gallu cynnig:
- y cyfle i weithio gyda disgyblion brwdfrydig, hapus a gweithgar
- y cyfle i weithio o fewn Adran hynod lwyddiannus, sydd yn ymrwymedig i gydweithio'n agos er mwyn sicrhau llwyddiant pob disgybl o bob gallu.
- y cyfle i weithio gyda thîm o athrawon a staff cefnogol proffesiynol, talentog a blaengar, sydd yn llwyr ymrwymedig i sicrhau llwyddiant yr ysgol ac yn barhaus yn barod i fynd yr ail filltir er lles ein disgyblion.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 7fed o Dachwedd 12 y.h.
Graddfa gyflog: Prif raddfa gyflog
Telerau'r swydd: Llawn amser. Cytundeb parhaol i ymgeisydd sydd a'r medrau a'r profiad addas.
Dyddiad dechrau: 1af o Ionawr 2026
Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)
Dylid cyflwyno ffurflen a llythyr cais i reolwraig busnes yr ysgol, Mrs Eirian Leonar.d Am unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r swydd, cysylltwch gyda Mrs Leonard ar: 01792 560605; neu drwy e-bost: LeonardE18@hwbcymru.net
Neu Miss Matthews ar 01792 560739 MatthewsL64@Hwbcymru.net
