Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Gynradd Dyfnant : Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

(dyddiad cau: 13/11/25)(12hanner dydd) (Dros dro tan fis Gorffennaf 2026) (Gradd 4 SCP 5-6) Bydd y rôl hon yn cynnwys darparu cymorth i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn ysgol brif ffrwd gefnogol a chynhwysol iawn. Bydd hwn yn benodiad dros dro, yn y lle cyntaf, i'r ddarpariaeth addysgu arbenigol i blant ag ASD. Cyflog cyfredol: £24,790 i £25,183 (Pro-rata). Yn amodol ar addasiad amser tymor yn unig os yw'r dyddiad penodi ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd.

Ysgol Gynradd Dyfnant
Heol Dyfnant
Dyfnant
Abertawe  SA2 7SN
Ffon: 01792 207336/207196
Ffacs: 01792 207233

www.swansea-edunet.gov.uk/en/schools/Dunvant
Dunvant.Primary@swansea-edunet.gov.uk
@dunvantprimary

Pennaeth
Mrs Malcolm
B.Ed.(Anrh) NPQH

Mae'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Dyfnant yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 am 27.5 awr yr wythnos.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus:-yn unigolion brwdfrydig, llawn cymhelliant, yn angerddol am gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

  • bod yn ymrwymedig i addysg gynhwysol i bob disgybl
  • meddu ar sgiliau cyfathrebu da iawn gydag oedolion a phlant
  • meddu ar y cymwysterau a'r profiad perthnasol mewn lleoliad ysgol.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu :-

  • Gweithio gyda'r athro dosbarth i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn briodol.
  • gweithredu rhaglenni o dan arweiniad a chyfarwyddyd gweithwyr proffesiynol.
  • gweithio fel rhan o'n tîm staff i ddarparu darpariaeth effeithiol sy'n canolbwyntio ar y person.

Mae Ffurflen Gais a Gwybodaeth i Ymgeiswyr ar gael isod.

Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgolian (Word doc, 134 KB)

Disgrifiad Swydd - Cynorthwyydd Addysgu (STF) - Ysgol Gynradd Dyfnant (PDF, 286 KB)
Dylid dychwelyd ffurflenni at sylw Mrs C Malcolm, Pennaeth dunvant.primary@swansea-edunet.gov.ukBydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn destun datgeliad DBS uwch a'r gwiriadau recriwtio diogel angenrheidiol yn cael eu gwneud. 
Dyddiad cau: 13/11/2025 hanner dydd
Cyfweliadau: I'w gadarnha

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Hydref 2025