Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno cyfleusterau talu â cherdyn ym mhob tacsi trwyddedig yn Abertawe

Bydd teithwyr mewn tacsis cyn bo hir yn gallu talu am eu taith drwy gerdyn credyd neu gerdyn arian ym mhob tacsi trwyddedig sy'n gweithredu yn y ddinas.

taxi logo

Ar hyn o bryd, mae llawer o dacsis yn derbyn taliadau am deithiau drwy arian parod yn unig, gan ei gwneud yn anodd i bobl deithio os nad ydynt yn cario arian parod.

O fis Rhagfyr 2025, mae rheolau newydd a gymeradwywyd gan Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Cyngor Abertawe yn golygu bod yn rhaid i dacsis hurio preifat a cherbydau hacni newydd eu trwyddedu gynnig cyfleusterau talu â cherdyn.

Daw'r rheolau newydd i rym ar gyfer deiliaid trwyddedau tacsi presennol pan gaiff eu trwydded eu hadnewyddu. Felly, ni fydd yn rhaid i rai ohonynt gydymffurfio â'r newidiadau tan y flwyddyn nesaf.

Mae'r cynlluniau talu â cherdyn yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025, a gymeradwyodd ymgynghoriad cyhoeddus i glywed gan weithredwyr tacsis ac aelodau'r cyhoedd, gan ofyn iddynt a ddylai cyfleusterau talu â cherdyn fod yn orfodol ym mhob tacsi.

Mae'r cynlluniau hyn yn dilyn pryderon a fynegwyd gan y cyhoedd fod teithwyr mewn perygl o gael eu gadael yn ddiymgeledd gan nad ydynt yn cario arian parod a chan eu bod yn dibynnu'n fwyfwy ar ddulliau talu modern fel Google Pay a thaliadau digyffwrdd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ym mis Mai a mis Mehefin eleni a chytunodd 82% o'r rhai hynny a gymerodd ran y dylai pob tacsi gynnig peiriant talu â cherdyn.

At ei gilydd, cymerodd 417 o bobl ran yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys 179 o'r diwydiant tacsis.

Meddai'r Cyng. Andrew Williams, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol, "Mae llawer o gwmnïau tacsis a pherchnogion tacsis unigol eisoes yn defnyddio technoleg darllen cardiau yn ogystal â chaniatáu i deithwyr dalu am deithiau drwy ap ffôn clyfar.

"Fodd bynnag, mae llawer o yrwyr tacsis yn y ddinas yn dal i ganiatáu taliadau drwy arian parod yn unig, a gallai hyn olygu na fyddai modd i deithwyr dalu am eu taith os nad ydynt yn cario arian parod.

"Mae ein hymgynghoriad cyhoeddus diweddar wedi dangos bod y mwyafrif helaeth o deithwyr am weld dulliau talu modern yn cael eu mabwysiadu ym mhob tacsi trwyddedig sy'n gweithredu yn y ddinas."









Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Tachwedd 2025