Uwch Oruchwyliwr Arlwyo (dyddiad cau: 21/11/25)
£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Ymunwch â'n tîm i arwain a chefnogi gweithrediadau arlwyo ar draws ysgolion Abertawe. Byddwch yn cydlynu goruchwylwyr ardal, yn sicrhau safonau uchel mewn paratoi a gwasanaeth bwyd, ac yn helpu i ddatblygu ein busnes arlwyo.
Teitl y swydd: Uwch Oruchwyliwr Arlwyo
Rhif y swydd: ED.74022
Cyflog: £36,363 - £39,862 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Uwch Oruchwyliwr Arlwyo (ED.74022) Disgrifiad Swydd (PDF, 284 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Addysg
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd ED.74022
Dyddiad cau: 11.45pm, 21 Tachwedd 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae hon yn swydd llawn amser i oruchwylio ein Goruchwylwyr Arlwyo Ardal a chefnogi rheoli ein holl geginau i sicrhau gweithrediadau dyddiol llyfn. Os oes gennych brofiad mewn goruchwylio arlwyo a bod gennych sgiliau arwain a threfnu cryf, yna dyma'r rôl i chi.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
