Gyrrwr - Llafurwr (dyddiad cau: 25/11/25)
£26,403 - £27,254 y flwyddyn. Chwilio am Yrrwr Tractor profiadol i ymgymryd â gwaith torri a chludo glaswellt yn bennaf, wedi'i leoli o fewn y Gwasanaeth Parciau, tîm Trafnidiaeth.
Teitl y swydd: Gyrrwr - Llafurwr
Rhif y swydd: PL.5570-V2
Cyflog: £26,403 - £27,254 per year
Disgrifiad swydd: Gyrrwr - Llafurwr (PL.5570-V2) Disgrifiad swydd (PDF, 310 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd PL.5570-V2
Dyddiad cau: 11.45pm, 25 Tachwedd 2025
Rhagor o wybodaeth
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd yn bennaf â gwaith cynnal a chadw Tiroedd h.y. torri glaswellt gan ddefnyddio tractor Agri mawr a'r atodiadau perthnasol.
Cynnal yr offer i'r safonau penodol a gwneud gwaith cynnal a chadw dyddiol e.e. iro.
Paratoi, cynllunio a threfnu llwyth gwaith neilltuol.
Weithiau bydd disgwyl iddo weithio o fewn tîm Parciau gan ddefnyddio amrywiaeth o offer torri glaswellt llaw.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
