Gweithiwr Cymorth Dydd 1-1 (dyddiad cau: 04/12/25)
£26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn. Rhan amser (18 awr yr wythnos). Mae Gwasanaeth Dydd Anghenion Arbennig Birchgrove yn chwilio am berson cymhellol, brwdfrydig a gofalgar i weithio o fewn Gwasanaeth Dydd sefydledig.
Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd (1-1)
Rhif y swydd: SS.73733
Cyflog: £26,403 - £27,254 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd (SS.73733) Disgrifiad Swydd (PDF, 274 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73733
Dyddiad cau: 11.45pm, 4 Rhagfyr 2025
Rhagor o wybodaeth
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar sail 1 - 1 yn cefnogi defnyddiwr gwasanaeth ag anghenion iechyd cymhleth. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd gefnogi unigolion eraill o fewn y gwasanaeth sydd ag anghenion cymhleth.
Byddai profiad o Drin â Llaw, Gofal Personol, Epilepsi a Gweinyddu Meddyginiaeth yn hanfodol, ond gellir rhoi hyfforddiant.
Mae parodrwydd i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth i ddilyn ystod o weithgareddau dyddiol er mwyn iddynt gyflawni eu canlyniadau y cytunwyd arnynt yn hanfodol. Mae NVQ/QCF 2/3 mewn Gofal, neu barodrwydd i weithio tuag at y cymwysterau hyn, yn hanfodol.
Byddech yn derbyn sefydlu, goruchwyliaeth reolaidd, a disgwylir i chi ymgymryd ag ystod o gyfleoedd hyfforddi a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y gwasanaeth. Bydd gofyn i chi feddu ar drwydded yrru lawn. Mae disgwyliad hefyd y gallai fod yn ofynnol i chi weithio mewn gwasanaethau eraill
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Sheridan Evans ar 01792 321522
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
