Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant: Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2
(Dyddiad cau: 12/12/25 12.00pm). Yn ofynnol ar gyfer Ionawr 2026. 25 awr yr wythnos £25,583 - £25,989 Pro-rata y flwyddyn (Gradd 4). Bydd hwn yn benodiad dros dro tan 31 Gorffennaf 2026 yn y lle cyntaf. (Bydd y cyflog a nodir yn destun addasiad tymor yn unig os yw dechrau'r gyflogaeth ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd)
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn ysgol lwyddiannus a hapus sy'n gwasanaethu cymunedau Catholig Gorllewin Abertawe. Yn ysgol Dewi Sant ein dymuniad yw bod pob plentyn, waeth beth fo'i ffydd, oedran, rhyw, gallu, neu ethnigrwydd yn cyrraedd y safonau uchaf posibl mewn perthynas â'i botensial.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu cymorth addysgu o ansawdd uchel a gweithio fel rhan o'r tîm. Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn darparu cymorth dysgu ac arweiniad i bob disgybl, mae profiad o weithio gyda phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth prif ffrwd yn hanfodol.
Mae'r swydd yn gofyn:
- Sensitifrwydd, empathi a dealltwriaeth o'r disgyblion yn yr ysgol;
- Y cymwysterau a'r profiad perthnasol mewn lleoliad ysgol;
- Sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a TG rhagorol;
- Hanes profedig o ragoriaeth;
- Sgiliau cyfathrebu da gyda'r gallu i annog, ysgogi a delio ag amrywiaeth o ddisgyblion.
- Yn gallu cefnogi dysgu disgyblion o fewn dosbarthiadau prif ffrwd y Cyfnod Sylfaen/Cyfnod Allweddol 2
- Yn gallu cyflawni tasgau ymarferol sy'n cefnogi rhedeg yr ysgol yn llyfn
- Gall weithio'n effeithiol fel rhan o dîm
- Yn hyderus wrth gefnogi disgyblion ag ystod o Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rhai sydd â Saesneg fel Iaith Ychwanegol.
- Gall fod yn gadarnhaol, optimistaidd a rhagweithiol o fewn tîm cryf o staff presennol
- Bydd yn cyfrannu at fywyd cyffredinol yr ysgol gyfan
- Cael disgwyliadau uchel am blant a nhw eu hunain.
- Cefnogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel.
- Bod yn barod i gyfrannu at fywyd ehangach cymuned yr ysgol
Dylai ymgeiswyr, yn ogystal, dynnu sylw at sgiliau, arbenigedd a phrofiad blaenorol eraill y gallent ddod â nhw i'r rôl.
Dyddiad cau: 12 Rhagfyr am 12 pm
Rhestr fer: 12 Rhagfyr 2025
Cyfweliadau: 18 Rhagfyr 2025
Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant - Cynorthwyydd Addysgu - Disgrifiad swydd (PDF, 166 KB)
Ffurflen gais - staff cefnogi a leolir mewn ysgol Gatholig (Word doc, 66 KB)
Ffurflenni cais: https://www.stdavidscatholicprimary.swansea.sch.uk/vacancies/
Dychwelwch ffurflenni cais at RichardsE197@hwbcymru.net
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
