Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (dyddiad cau: 18/12/25)

£32,061 - £35,412 y flwyddyn. Mae gennym gyfle newydd a chyffrous ar gyfer Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (SSP), o fewn ein Tîm Cymorth Synhwyraidd.

Teitl y swydd: Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhif y swydd: SS.74061
Cyflog: £32,061 - £35,412 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (SS.74061) Disgrifiad Swydd (PDF, 304 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran:
Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.74061

Dyddiad cau: 11.45pm, 18 Rhagfyr 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae gennym gyfle newydd a chyffrous ar gyfer Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (SSP), o fewn ein Tîm Cymorth Synhwyraidd. 

Rydym yn chwilio am unigolyn arloesol a blaengar sy'n gallu dangos sgiliau rhyngbersonol a datrys problemau rhagorol.

Bydd gennych ymagwedd greadigol at eich gwaith yn cynnal asesiadau holistaidd. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gweithio tuag at ganlyniadau y cytunwyd arnynt, sy'n gwneud y mwyaf o annibyniaeth ac yn atal dibyniaeth ar ofal ffurfiol.

Byddwch wedi'ch lleoli o fewn y tîm gwasanaethau synhwyraidd byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr i ddarparu asesiadau arbenigol, cyngor/arweiniad, cefnogaeth emosiynol ym mhob agwedd ar nam ar y golwg i unigolion a'u gofalwyr. 

Bydd gofyn i chi weithio gyda phobl sydd â cholled synhwyraidd deuol, iechyd meddwl, anableddau corfforol, anableddau dysgu, pobl hŷn, a darparu cyngor i wasanaethau plant a phobl ifanc.

Byddwch yn cyfrannu at ddatblygu a gwella ymarfer a pherfformiad tîm.

Byddwch yn gweithio ar y cyd â sefydliadau partner i hyrwyddo iechyd a lles unigolion â nam ar eu golwg, pobl fyddar a thrwm eu clyw yn Abertawe.

Os nad ydych eisoes yn meddu ar y cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (SSP), yna bydd gofyn i chi gwblhau a chymhwyso yn y cymhwyster Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol (SSP). Bydd disgwyl hefyd dysgu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i leiaf Lefel 1, os nad ydych eisoes yn meddu ar y cymhwyster hwn.  

Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth a hyfforddiant rheolaidd sy'n berthnasol i'ch rôl.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Glynis Williams Rheolwr Tîm ffôn 07469412133

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Rhagfyr 2025