Swyddog Cynllunio (dyddiad cau: 19/12/25)
£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Dros dro am chwe mis. Rydym yn recriwtio Swyddog Cynllunio yn ein Tîm Rheoli Datblygu i fod yn rhan o'r tîm sy'n darparu lefelau digynsail o adfywio a datblygu yn Abertawe.
Teitl y swydd: Swyddog Cynllunio
Rhif y swydd: PL.66773-V1
Cyflog: £36,363 - £39,862 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Cynllunio (PL.66773-V1) Disgrifiad Swydd (PDF, 284 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd PL.66773-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 19 Rhagfyr 2025
Rhagor o wybodaeth
Mae Abertawe ar drothwy lefelau digynsail o fuddsoddiad adfywio a datblygu. Mae prosiectau adfywio mawr dan arweiniad y Cyngor yng Ngham 1 Canol Abertawe, Ffordd y Brenin a Glan-yr-afon Tawe eisoes ar y gweill. Bydd prosiectau trawsnewidiol eraill yn dilyn wrth i'r sector preifat gydnabod y cyfleoedd datblygu a mewnfuddsoddi yn Abertawe. Yn allweddol i lwyddiant parhaus adfywio ein dinas yw rôl ein gwasanaeth cynllunio.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am brosesu gwaith cynllunio a cheisiadau eraill, apelio a gwaith gorfodi mewn ardal benodol o Ddinas a Sir Abertawe. Bydd gofyn i chi ddelio yn uniongyrchol â'r cyhoedd, darpar ymgeiswyr a'u hasiantau i ddarparu gwasanaeth cynllunio effeithlon, effeithiol a chyfeillgar i gwsmeriaid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn berson brwdfrydig a llawn cymhelliant, sy'n gallu cwrdd â dyddiadau cau a helpu'r adran i gyrraedd targedau perfformiad.
Mae'r swydd dros dro am gyfnod cychwynnol o 6 mis ac mae wedi'i lleoli yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe gyda threfniadau gweithio ystwyth.
Am drafodaeth anffurfiol ar y swyddi hyn, cysylltwch ag Ian Davies, Rheoli Datblygu Ffôn: 07970 680549
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol
