Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddog Eiddo a Chyllid Cleientiaid X 2 (dyddiad cau: 23/12/25)

£36,363 - £39,862 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Uned Eiddo a Chyllid Cleientiaid i weithio fel Swyddog Eiddo a Chyllid Cleientiaid yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar sail cyfnod penodol hyd at 30 Medi 2026.

Teitl y swydd: Swyddog Eiddo a Chyllid Cleientiaid X 2
Rhif y swydd: SS.73461
Cyflog: £36,363 - £39,862 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Swyddog Eiddo a Chyllid Cleientiaid (SS.73461) Disgrifiad Swydd (PDF, 281 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.73461

Dyddiad cau: 11.45pm, 23 Rhagfyr 2025

Rhagor o wybodaeth

Mae hwn yn faes heriol ond gwerth chweil o waith Amddiffyn Oedolion ac mae'n gofyn am amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys lefel uchel o fenter, rheoli amser, rhifedd a sgiliau cyfathrebu da ar sawl lefel, yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol neu fel rhan o dîm. 

Mae'r rôl arbenigol hon yn cynnwys cydweithio â phartneriaid fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Llys Gwarchod, a Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddiogelu defnyddwyr gwasanaeth rhag camdriniaeth. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys cyswllt uniongyrchol â rheolwyr gofal, defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, a sefydliadau allanol amrywiol.

Cysylltwch â ian.jones2@swansea.gov.uk am ragor o wybodaeth os oes angen.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Rhagfyr 2025