Swyddfa Dai Ranbarthol Blaenymaes
Mae Swyddfa Dai Ranbarthol Blaenymaes yn gwasanaethu'r ardaloedd canlynol: Blaenymaes, Portmead, Fforestfach, Fforesthall a Cadle.
73-89 Ffordd-y-Brain, Fforesthall, Abertawe, SA5 5ED.
Dydd | Oriau agor |
Dydd Llun | 9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm) |
Dydd Mawrth | 9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm) |
Dydd Mercher | 9.30am - 4.00pm (ffonau ar gael 9.30am - 4.30pm) |
Dydd Iau | 9.00am - 4.00pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.30pm) |
Dydd Gwener | 9.00am - 3.30pm (ffonau ar gael 8.30am - 4.00pm) |
Mae gan ein swyddfeydd tai rhanbarthol y cyfleusterau canlynol:
- Rampiau a rheiliau i ddrysau'r fynedfa ynghyd â drysau sy'n agor yn awtomatig.
- Dolenni clyw i helpu pobl â nam ar y clyw yn y derbynfeydd ac mewn cyfarfodydd.
- Cymhorthion cynorthwyol sy'n cynnwys hambyrddau arffed, pinnau gafael mawr, chwyddwydrau, lampiau golau dydd, canllawiau ysgrifennu.
- Ystafelloedd cyfweliad preifat y gellir eu defnyddio i drafod gwybodaeth gyfrinachol neu os ydych eisiau preifatrwydd i gael help gan aelod o staff i ddarllen drwy ffurflen gymhleth gyda chi a'i chwblhau.
- Arwyddion cyffyrddol.
Mae staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i siarad â chi a gallwch gael gwyodaeth ysgrifenedig am dai yn Gymraeg os gofynnwch am hynny. Gallwn ddarparu cyfieithwyr proffesiynol os oes angen iaith arall arnoch. Gofynnwch i aelod o staff yn ein swyddfa dai am help a chymorth.
Cyrraedd y swyddfa
Os yw cyrraedd swyddfa'n anodd i chi, gallwn drefnu i ymweld â chi adref, cysylltwch â'r adran tai i drefnu ymweliad.