Toglo gwelededd dewislen symudol

Templed asesiad risg diogelwch tân

Asesiad risg tân yw archwiliad trefnus o'ch gweithrediad, y gweithgareddau a gynhelir a thebygolrwydd y gallai tân ddechrau a pheri niwed i eraill.

Mae'n ceisio:

  • nodi'r peryglon tân
  • lleihau'r risg o'r peryglon hynny'n peri niwed gymaint â sy'n ymarferol bosib
  • penderfynu pa ragofalon tân corfforol a threfniadau rheoli y mae eu hangen i sicrhau diogelwch y bobl yn eich adeilad os bydd tân yn dechrau.

Sut ydw i'n cynnal asesiad risg tân?

Mae'n bwysig eich bod yn cynnal eich asesiad risg tân mewn ffordd ymarferol a systematig a dylai'ch asesiad risg tân ddangos, cyn belled â sy'n rhesymol, eich bod wedi ystyried anghenion yr holl bobl berthnasol, gan gynnwys pobl anabl.

Cam 1 - Nodi'r peryglon

Bydd angen i chi nodi'r canlynol:

  • ffynonellau tanio, megis fflamau agored, gwresogyddion neu rai prosesau masnachol
  • ffynonellau tanwydd megis gwastraff sydd wedi pentyrru, deunyddiau arddangos, tecstilau, neu ormod o gynnyrch
  • ffynonellau ocsigen megis system tymheru awyr, neu gyflenwadau ocsigen meddygol neu fasnachol.

Cam 2 - Nodi pobl sydd mewn perygl

Bydd angen i chi nodi'r bobl hynny a all fod mewn perygl, megis:

  • pobl sy'n gweithio wrth ymyl peryglon tân
  • pobl sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain
  • cwsmeriaid gan gynnwys plant neu rieni â babanod
  • a'r henoed neu bobl sy'n fethedig neu'n anabl.

Cam 3 - Gwerthuso, gwaredu, lleihau a diogelu rhag perygl

Gwerthuswch lefel y risg ar gyfer eich stondin. Dylech waredu unrhyw beryglon tân (neu eu lleihau) lle bo'n bosib a lleihau unrhyw beryglon rydych chi wedi'u nodi. Er enghraifft, dylech:

  • newidiwch ddeunyddiau sy'n hynod fflamadwy am rai llai fflamadwy
  • sicrhewch eich bod yn gwahanu deunyddiau fflamadwy a ffynonellau tanio
  • a sicrhewch fod gennych bolisi smygu diogel.

Pan fyddwch chi wedi lleihau'r risg gymaint â phosib, mae'n rhaid i chi asesu unrhyw risg sy'n weddill a phenderfynu a oes unrhyw fesurau pellach y mae angen i chi eu cymryd i sicrhau eich bod yn darparu lefel resymol o ddiogelwch tân.

Cam 4 - Cofnodi, cynllunio, cyfarwyddo, hysbysu a hyfforddi

Mae angen i chi hefyd lunio cynllun ar gyfer argyfwng sydd wedi'i deilwra ar gyfer eich busnes ac yn nodi'r camau gweithredu y byddai angen i chi eu cymryd petai tân. Bydd angen i chi roi cyfarwyddiadau clir a hyfforddiant i staff am y peryglon yn y fangre.

Cam 5 - Adolygu

Dylech sicrhau bod eich asesiad risg tân yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd. Bydd angen i chi ei ailarchwilio os ydych yn amheus nad yw'n ddilys mwyach, megis ar ôl achos cael a chael neu rydych chi'n newid arferion eich busnes.

Close Dewis iaith