Toglo gwelededd dewislen symudol

Masnachu ar y Stryd mewn ffair, carnifalau a digwyddiadau

Rhaid i bob masnachwr sy'n dymuno masnachu mewn unrhyw ffair, carnifal neu ddigwyddiad sydd am ddim i'r cyhoedd wneud cais am ganiatâd masnachu ar y stryd er mwyn masnachu.

Gellir gwneud hyn ar-lein neu drwy gwblhau'r ffurflen masnachu ar y stryd. Rhaid cwblhau pob cais o leiaf un mis cyn y digwyddiad i sicrhau bod digon o amser i roi caniatâd.

Mae'n bosib y bydd gan drefnydd y digwyddiad ganiatâd sy'n cynnwys yr holl fasnachwr. Mae hwn yn ganiatâd ar gyfer pob masnachwr ond eich cyfrifoldeb chi yw gwirio hyn, e.e. mae gan drefnwyr marchnadoedd Uplands a'r Marina ganiatâd masnachu ar y stryd sy'n cynnwys yr holl fasnachwyr.

Os codir ffi ar y cyhoedd i ddod i unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, nid oes angen i'r masnachwyr gael caniatâd masnachu ar y stryd.

Close Dewis iaith